Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llystyn, yw y Parch. W. Jones. Ganwyd ef yn y tŷ lle y mae ei dad yn byw yn bresennol, sef Cae-maes Gollen, yn y flwyddyn 1835. Galwyd ef i ddechreu pregethu yn y flwyddyn 1858. Derbyniodd ei addysg gyda Mr. Ebenezer Thomas (Eben Fardd), Clynog, a bu amryw flynyddau yn athrofa y Bala. Yn y flwyddyn 1864, cafodd ei ordeinio yn Nghymdeithasfa Llanrwst. Nid ydym yn gwybod ei fod wedi cyfansoddi unrhyw ddarn arbennig; eto, bydd yn ysgrifennu rhyw ychydig yn achlysurol. Yr ydym yn cael iddo gyfansoddi lluaws o englynion, yn nghydag amryw benillion ar wahanol destynau. Eto, ychydig fydd ef yn ymwneyd â'r gangen hon o lenyddiaeth; ond mae yn deall y wybod aeth ryfedd hon. Ei elfen ef yw Duwinyddiaeth. Yn y flwyddyn 1864, cafodd alwad unfrydol yr eglwys Fethodistaidd yn Llanllyfni i dd'od yno i'w bugeilio, fel gweinidog; ac yr ydym yn deall fod ei lafur a'i ymdrechion yn cael eu dylyn â llwyddiant. Fel pregeth ŵr, mae yn meddu ar yr elfennau hyny sydd yn wir angenrheidiol i wneyd pregethwr mawr a chymeradwy. Bydd hefyd yn cael ei alw yn fynych i weithredu fel Beirniad mewn cyfarfodydd llenyddol, ac yn cymeryd rhan bwysig yn fynych mewn cyfarfodydd cerddorol. Gallem ddyweyd for ei glod trwy'r wlad fel Beirniad teg a chyfiawn.

PARCH. ROBERT JONES, CAERGYBI

Mab yw Mr. Jones i'r diweddar Richard Jones, Winllan, Llanllechid; a nai i'r diweddar Owen Jones, Machine. Ganwyd ef yn y Winllan, yn y flwyddyn 1817. Ychydig o foddion addysg a gafodd; ond trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd, daeth yn feddiannol ar gryn raddau o wybodaeth, yn neillduol felly mewn Duwinyddiaeth.