Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y flwyddyn 1842, codwyd ef i bregethu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Gatehouse. Yn fuan ar ol hyn, symudodd i fyw i Gaergybi. Yn y flwyddyn 1867, mewn cymanfa yn Llangefni, cafodd ei ordeinio yn weinidog. Ystyrid ef yn bregethwr parchus a chymeradwy

YR ANNIBYNWYR:

PARCH. ROBERT MORRIS GRIFFITH, BLACKPOOL

Ganwyd y gweinidog parchus hwn yn Penybonc, Llandegai, yn y flwyddyn 1776. Pan yn fachgen ieuanc, gweithiai fel chwarelwr yn Chwarel y Cae. Cod wŷd ef i bregethu yn hen Gapel yr Achub gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a hyny pan ydoedd tua 18 mlwydd oed. Yn fuan wedi hyn, aeth i Loegr i'r ysgol, ac oherwydd rhyw annghydwelediad â'r Trefnyddion Calfinaidd, ymadawodd oddiwrthynt, ac aeth at yr Annibynwyr; ac yn fuan cafodd ei ordeinio yn weinidog ar yr eglwys Annibynol Seisnig yn Blackpool, yn Swydd Lancaster. Bu yn weinidog yn y lle hwn am tua 50 o flynyddoedd; a chafodd ei lafur ei fendithio â llwyddiant mawr. Nid ydym yn deall iddo ysgrifennu fawr yn ystod ei oes, ond yr oedd fel pregethwr yn un o'r dosbarth mwyaf hyawdl a doniol. Talai ymweliad yn awr ac eilwaith â'i gymydogaeth enedigol, Bethesda, a byddai ar y prydiau hyny bob amser yn pregethu Cymraeg. Bu farw yn Blackpool, yn y flwyddyn 1858, yn 82 mlwydd oed.

PARCH. OWEN JONES, NANT-Y-BENGLOG

Mab ydyw Mr. Jones i Mr. J. Williams, Maesgaradog, Llandegai, ac ewythr i'r Parch. O. Jones, Ystalyfera, o frawd ei dad. Ganwyd 0. Jones yn Maesgaradog, yn y