Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn 1810. Ychydig o ddim moddion addysg a gafodd ef erioed. Nid oedd yn y ddau blwyf hyn ne mawr ddim moddion addysg pan oedd Mr. Jones yn fachgennyn; ond trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd ei hun, cyraeddodd i gryn raddau o wybodaeth, yn enwedig felly mewn duwinyddiaeth. Yn y flwyddyn 1841, cod wŷd ef i bregethu gan yr eglwys Annibynol yn Bethesda, ac yn y flwyddyn 1864, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, ac i gymeryd gofal yr eglwys fechan yn Nant-y-Benglog.

Cawn fod Mr. Jones yn bregethwr da, ac yn dra chymeradwy yn mhlith ei frodyr.

PARCH. WILLIAM WILLIAMS, NEFYN.

Ganwyd Mr. Williams yn Pantdreiniog, ger Bethesda, yn y flwyddyn 1829. Bu yn derbyn ei addysg yn athrofa yr Annibynwyr yn y Bala. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1850, ac yn y flwyddyn 1855 cafodd alwad i dd’od i wasanaethu yr eglwys Annibynol yn Nefyn, yn yr hwn le y mae yn bresennol. Yr ydym yn deall fod Mr. Williams wedi cyrraedd graddau lled uchel fel dysgawdwr. Mae yn dduwinydd galluog, ac yn ymresymwr cadarn. Mae fel gweinidog a phregethwr yn boblogaidd a gwir gymeradwy yn y Cyfundeb y perthyna iddo.

PARCH. THOMAS T. WILLIAMS, LLANDDEUSANT.

Cawn i'r diweddar weinidog parchus uchod gael ei eni yn Pant-dreiniog, ger Bethesda, yn y flwyddyn 1831. Dechreuodd Mr. Williams bregethu yn 1857, ac ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1861, pryd yr aeth i fugeilio yr eglwys Annibynol yn Llanddeusant, Môn. Yr ydym yn deall mai yn athrofa y Bala y