Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bu yn derbyn ei addysg. Gallem ddyweyd yn hyf ei fod yn bregethwr da. Pregethai yn goeth, gafaelgar, ac effeithiol. Dywed y Parch. M. D. Jones, Bala—ei ddiweddar athraw—amdano, " ei fod yn fyfyriwr dyfal, yn gristion gloew, ac yn bregethwr tra chymeradwy." Yr oedd hefyd yn draddodwr hyawdl. Yr oedd siarad yn berffaith naturiol iddo. Bu farw Mehefin 10fed, 1863, yn 31 mlwydd oed.

PARCH. SAMUEL JONES, MIDDLE GRANVILLE

Mab i'r diweddar Mr. John Thomas, Bethesda, yw S. Jones, yr hwn a anwyd yn Bethesda yn y flwyddyn 1831. Nid ydym yn gwybod fod S. Jones wedi cael nemawr o fanteision addysg; eto, trwy lafur a'i ddiwydrwydd ei hun wedi noswylio, cyraeddodd i gryn raddau o enwogrwydd mewn dysg a gwybodaeth. Gall em ddyweyd iddo feistroli yr iaith Gymraeg a'r Seisneg i raddau pell iawn. Yn y flwyddyn 1860, cafodd ei godi i bregethu gan yr eglwys Annibynol yn Bethesda; ac yn y flwyddyn 1864, cafodd alwad gan yr eglwys Annibynol yn Middle Granville, America, i dd’od yno i'w gwasanaethu fel gweinidog. Ufuddhaodd i'r alwad, ac aeth yno, lle yr ordeiniwyd ef i gyflawni holl waith y weinidogaeth. Mae yn dda gennym gael dyweyd fod ei lafur, a'i lwyr ymroddiad i'r weinidogaeth, yn cael eu dylyn à llwyddiant anarferol yn nhir y gorllewin.

PARCH. DAVID T. WILLIAMS, RHUDDLAN

Mae yn deilwng o sylw fod Mr. Williams yn frawd i'r Parchn. W. Williams a T. T. Williams, am ba rai y mae gennym ychydig sylwadau o'i flaen ef; ac hefyd eu bod yn feibion i Mr. Thomas Williams, Llwybrmain, Mynydd Llandegai, a phregethwr cymeradwy gyda'r Annibynwyr.