Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ganwyd y Parch. D. T. Williams yn yr un man a'i ddau frawd, a hyny yn y flwyddyn 1841. Dechreuodd ar y gwaith mawr a phwysig o bregethu yn y flwyddyn 1861. Aeth yn fuan ar ol hyn i athrofa yr Annibynwyr yn y Bala i dderbyn ei addysg. Yn y flwyddyn 1866, cafodd alwad gan yr eglwys Annibynol yn Rhudd lan i dd’od yno i'w gwasanaethu fel gweinidog, ac felly ordeiniwyd ef ar y pryd. Er nad yw Mr. Williams ond ieuanc yn y weinidogaeth, gystal ag o ran oedran, eto yr ydym yn deall fod ei weinidogaeth yn y lle yn cael ei dylyn â llwyddiant mawr. Mae o feddwl treiddgar, ac yn siaradydd rhwydd a naturiol; yn ddiwinydd da, ac yn bregethwr hynod o gymeradwy yn y Cyfundeb Annibynol.

PARCH, OWEN JONES, YSTALYFERA

Mab ydyw Mr. Jones i Mr. John Jones, Maesgaradog, Llandegai. Ganwyd ef yn Maesgaradog, yn y flwyddyn 1844. Pan yn fachgen, bu yn derbyn addysg yn yr Ysgol Genedlaethol Tyntwr. Wedi iddo dyfu i dipyn o faint, ymroddodd o ddifrif i addysgu ei hunan mewn gwahanol gangenau gwybodaeth. Pan yn 18 mlwydd oed, codwyd ef i bregethu gan yr eglwys Annibynol yn Bethesda. Yn fuan ar ol hyn, aeth i dderbyn ei addysg i athrofa yr Annibynwyr yn y Bala. Bu yno am dymor, ac yna fe aeth i Brif athrofa Glasgow yn Scotland; ac yn Mehefin 1866, ordeiniwyd ef yn weinidog ar yr eglwys Annibynol yn y Wern, Ystalyfera, Swydd Morganwg. Gallem ddyweyd fod Mr. Jones wedi cyrraedd graddau uchel mewn dysgeidiaeth, ac fel pregethwr ystyrir ef yn un tra rhagorol, cymeradwy, a phoblogaidd.