Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y TREFNYDDION WESLEYAIDD

PARCH. RICHARD HUGHES, SHILOH

Ganwyd Mr. Hughes yn Tre’rgarth, Hydref21, 1819. Enw ei dad oedd William Hughes, yr hwn oedd wedi symud o Dre’rgarth i Braichtalog er's amryw flynyddau cyn marwolaeth R. Hughes. Dyma lle y mae ei fam yn byw hyd yn bresenol. Mae yn ymddangos na chaf odd nemawr o fanteision i gyrraedd hyd yn nod ddysgeidiaeth gyffredin pan yn fachgen ieuanc. Aeth i'r chwarel yn ieuanc iawn, ac felly tyfodd i fyny yn fachgen lled ddiddysg, a lled wyllt. Yr ydym yn cael ei fod tua 19 oed pan yr ymaflodd peth yn bwysig iawn ar ei feddwl gyda golwg ar ei gyflwr ysbrydol rhyngddo a'i Dduw. Yn nechreu y flwyddyn 1839, yr ydym yn cael iddo ddechreu pregethu. Effeithiodd claddu ei daid—yr hen bregethwr doniol Mr. Owen Pritchard, Braichtalog—effeithiodd ei gladdedigaeth arno gymaint, fel y dywedodd ar ol hyny ei fod fel pe buasai yn clywed ei daid yn gwaeddi arno o'r bedd, gan ddywedyd wrtho, " YN AWR, RICHARD, CYMER FY LLE. " Ar ol y diwrnod hwnw, ni theimlodd ei hun yr un dyn byth. Dywed, " Deffrodd fy meddwl oddifewn i mi, ac aros odd argraff annileadwy ar fy nghalon mai fy lle i oedd pregethu yr efengyl." Cawn iddo yn y flwyddyn 1840 gadw ei hun yn yr ysgol yn Nghaernarfon, er cyrraedd graddau o ddysg, ac ychydig o gydnabyddiaeth o'r iaith Seisneg.

Yn y flwyddyn 1841, fe'i cynygiwyd allan i'r gwaith teithiol, yn unol â threfn y Cyfundeb Wesleyaidd, ac fe osodwyd ei enw ar y List of Reserve. Yn Awst yr un flwyddyn, fe aeth i sir Fôn, i deithio ar gyflog, trwy gylchdaith Beaumaris. Yn Awst, 1842, fe'i