Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galwyd ef allan i'r gwaith gan y Gynadledd. Sefydlwyd ef yn weinidog yn Beaumaris, i lafurio dan arolygiaeth y Parch. D. Williams. Symudwyd ef oddi yno yn Awst, 1843, a sefydlwyd ef yn y Wyddgrug, i gydlafurio â'r Parch. R. Prichard. Mae yn ymddangos mai ei brif alluoedd meddyliol oeddent y galluoedd i DDYCHYMYGU, a'r gallu i GOFIO. Ein meddwl wrth ddyweyd hyn ydyw, fod y dychymyg a'r cof yn fwy amlwg ynddo na'r galluoedd ereill. Fel Pregethwr, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf doniol a hyawdl a feddai y Cyfundeb. Gallwn ddyweyd yn hyf amdano, fod ynddo bob cymhwysder i wneyd pregethwr cymeradwy yn Nghymru. Yr oedd ei ymddangosiad personol yn ffafriol iawn iddo yn yr areithfa-ei dymer gynhes ef, ei lais grymus, cyraeddgar, ac effeithiol. Yr oedd yr holl bethau hyn yn peri i bawb ddyweyd, mai pregethwr tra rhagorol ydoedd. Nid ydym yn gwybod iddo gyfan soddi rhyw lawer. Ysgrifenodd ddwy bregeth ragorol pan yn yr ysgol yn Nghaernarfon. Cyhoeddodd hwy yn llyfryn bychan chwecheiniog. Eu pynciau oeddent, "Crefydd Foreuol;" (Preg. xii. 1;) a " Llywodraeth Duw." (Salm xciii. 1-5.) Bu farw yn y flwyddyn 1847, yn 28 mlwydd oed.

PARCH. WILLIAM M. WILLIAMS, BRYMBO.

Mab ydoedd y gŵr ieuanc hwn i Mr. Morris Williams, pregethwr cymeradwy yn y Cyfundeb Wesleyaidd, yr hwn sydd yn byw ger Tre’rgarth, Llandegai. Ganwyd W. M. Williams yn y flwyddyn 1836. Mae yn ym ddangos i Mr. Williams dreulio y rhan foreuol o'i oes yn debyg fel y gwna y rhan fwyaf o blant dynion; eto, yr oedd yn meddu ar chwaeth dda, a chryn lawer a wybodaeth, pan nad ydoedd ond gŵr ieuanc iawn. Bywyd