Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

moesol, ond anghrefyddol, oedd nodwedd tymor boreu ei oes. Yr oedd yn meddu ar dalentau naturiol gwerthfawr. Ychydig y bu yn pregethu yn gynorthwyol yn ei gylchdaith ei hun, ond dangosai ei gynnydd yn amlwg i bawb. Aeth trwy yr arholiadau gofynnol yn y Cyfarfod Talaethol yn wir foddhaol, ac wedi hyny aeth trwy yr arholiadau o flaen y pwyllgor yn Llundain. Felly galwyd ef i waith y weinidogaeth gan y Gynadledd yn y flwyddyn 1861. Gosodwyd ef i lafurio yn nghylchdaith Coedpoeth, ger Brymbo. Derbyniodd gymeradwyaeth mawr ar ddechreuad ei weinidogaeth. Addawai wneuthur gweinidog gwir ddefnyddiol ac ymroddgar. Yr oedd fel Pregethwr yn oleu, athrawiaethol, a dylanwadol. Yr oedd yn meddu ar dreiddgarwch a chraffder anghyffredin fel duwinydd. Yr oedd hefyd yn meddu ar ddoniau ac hyawdledd anhyspydd. Claddwyd ei ran farwol yn ymyl capel y Wesleyaid yn Coedpoeth, yn 26 mlwydd oed. Mae yn ddiameu fod y gofgolofn sydd ar ei fedd yn arwydd amlwg o'r parch a'r teimlad da oedd yn mynwes y cyfeillion yn y gylchdaith honno tuag at eu hanwyl a'u diweddar weinidog. Yn bresenol, cawn adael ein hen gyfaill gyda dymuno "heddwch i'w lwch."

PARCH. HUGH HUGHES, CAERLLEON

Mab ydyw Mr. Hughes i'r diweddar W. Hughes, Braichtalog, Llandegai, a brawd i'r diweddar weinidog parchus R. Hughes, Braichtalog. Ganwyd ef yn y lle uchod yn 1842. Ychydig o foddion addysg a gafodd yn nyddiau ei ieuenctyd, ond yr oedd yn amlwg fod ynddo elfennau hanfodol i wneyd dyn da. Codwyd ef i bregethu gan yr eglwys Wesleyaidd yn Shilo, yn y flwydd yn 1863, ac yn y flwyddyn 1865, cafodd ei ddyrchafu