Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r weinidogaeth, pryd y gosodwyd ef yn Nefyn am dymor byr, ond symudwyd ef oddiyno i Gaerlleon, lle y mae yn bresenol. Rhestrir ef yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn y Cyfundeb.

BEDYDDWYR

PARCH. W. J. EVANS, LLANFAIR—TALHAIARN

Ganwyd Mr. Evans yn Bethesda, yn y flwyddyn 1844. Mab ydyw i Mr. John Evans, Ogwen Terrace, Bethesda. Bu yn derbyn ei addysg yn ngholeg y Bedyddwyr yn Hwlffordd am dair blynedd, lle y cyraeddodd gryn raddau o enwogrwydd fel ysgolhaig. Yn y flwyddyn 1863, codwyd ef i bregethu gan eglwys y Bedyddwyr yn Bethesda, a chafodd alwad yn 1866 gan eglwys y Bedyddwyr yn Llanfair-talhaiarn i dd'od yno i'w bugeilio. Yr ydym yn deall fod Mr. Evans yn ŵr ieuanc hynod o obeithiol, ac fel pregethwr yn wir gymeradwy.

II.—Y PREGETHWYR CYNORTHWYOL

MEGYS ag y sylwasom am y Gweinidogion, nas gallem 1 ystyried yr oll ohonynt hwy yn teilyngu eu rhestru yn mhlith "Enwogion Llanllechid a Llandegai," gallem grybwyll yr un peth am y Pregethwyr; ond yn gymaint a'u bod yn ddosbarth o gryn ddylanwad yn y wlad, fel ag y maent yn ddynion cyhoeddus, dichon na fyddai yn ormod i ni eu hystyried yn deilwng o'u rhestru yn y wedd ganlynol yn mhlith " Enwogion Llanllechid a Llandegai."