Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn Gymreigydd campus, yn Sais rhagorol, ac yn Lladinwr da: gallai ddefnyddio Seisneg a'r Lladin yn rhwydd, yr hyn oedd yn beth anghyffredin i leygwr yn ei ddyddiau ef. Fel gwladwr hefyd yr oedd yn un o'r rhai rhagorolaf yn y plwyf: byddai ei air ef fel cyfraith yn y cyfarfodydd plwyfol. Pa swydd bynnag a roddid iddo, yr oedd yn meddu cymhwysderau digonol i'w chyflawni. Yr oedd yn ŵr ag y rhoddid llawer iawn o ymddiried ynddo yn y plwyf. Bu farw Rhagfyr 15, 1820, yn 74 mlwydd oed. Gallem ddyweyd fod ei fab Elias Williams yn wladwr iawn, yn ysgolhaig da, ac yn hynafiaethydd rhagorol.

JAMES HUGHES (Iago Fychan)

Ganwyd " Iago Fychan," neu " James y Nant," fel y galwai rhai ef, yn Tanymarian, Llanllechid, yn y flwydd yn 1757. Yr oedd yntau yn cael ei ystyried yn hen brydydd da yn ei ddydd. Cyfansoddodd rai awdlau chywyddau, lluaws mawr o englynion, ac ugeiniau o gerddi a charolau. Enillodd bum punt mewn Eistedd fod yn Beaumaris. Bu yn fuddugol amryw weithiau heblaw hynny. Derbyniodd lawer o gyfarwyddiadau barddonol gan G. Peris. Yr oedd yn gyfaill mawr hefyd gyda "Twm y Nant," a bu gydag ef lawer gwaith yn chwareu ei "Interlude." Pan yn bedwar ugain a deg mlwydd oed, wrth edrych ar ffordd haiarn Caer a Chaergybi, cyfansoddodd gerdd dra dyddorol, yn yr hon y mae y llinellau hynod canlynol:

Ffordd yw hon, ffwrdd a hi,
O Gaer, trwy Aber, i Gaergybi:
Y dŵr glân a'r tân glo
A yr y flaena' yn ddiflino."


Dywedir na fu priodas gyda'i gilydd am gyhyd o amser er cyn cof yn mhlwyf Llanllechid a phriodas Iago Fychan parhaodd am 79 mlynedd! Bu farw yn y flwydd yn 1855, yn 98 mlwydd oed.