Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

naill ai myned yn aelod o Gôr Eglwys Gadeiriol Ban gor, lle yr oedd cyflog penodol, neu ynte fyned yn Athraw Ysgol Ddyddiol. Trwy y boneddwr parchedig uchod, cafodd le i fyned i gadw yr Ysgol Genedlaethol yn Bethel, Môn.

Ni chafodd dymor maith yno, oblegid yn mhen tua blwyddyn a haner cymerwyd ef yn afiach o'r Darfodedigaeth, o'r hwn glefyd y bu farw Mehefin 6ed, 1838, yn 30ain mlwydd oed.

Gyda golwg arno fel Cerddor, rhestrir ef gan y prif Feirniaid ar y blaen yn nghymydogaeth Bethesda yn eiddyddiau ef. Mae yr Egwyddor Gerddorol (gamut)sydd ar gael yn ei weithiau, yn nghyda'r Dôn hono,Dadguddiad (gwel Llyfr Tonau J. A. Lloyd), yndangos yn amlwg ei fod wedi cyraedd graddau uchel ynegwyddorion y gelfyddyd o gerddoriaeth. Cawn iddodderbyn ei wersi cyntaf mewn Cerddoriaeth gan yr anfarwol a'r diweddar Mr. R. Williams Cae Aseth.Nid ydym yn gwybod iddo wneyd ond ychydig âGramadegau Cerddorol Cymreig; na, derbyniodd ei hollddysg trwy y Gramadegau Seisnig. Bu farw yn aelodparchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Carneddi.Claddwyd ef yn mynwent Llanllechid, lle y mae yrEnglyn ganlynol ar gareg ei fedd:

"Dygwyd â Darfodedigaeth—enaid
Dyn hwn o'i ddynoliaeth;
I wlad gwawl nefawl fe aeth,
Ei elw fu marwolaeth."
Mr. J. ROWLANDS (Sion Brydydd), PENTIR.


ROBERT MOSES, CARNEDDI

Mab yw R. Moses i'r diweddar Mr. Moses Rowlands,Parc, Llanllechid. Ganwyd ef yn 1808. Derbynioddei addysg Gerddorol gan y diweddar R. Williams, Cae