Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dylid priodoli cychwyniad Cerddoriaeth cymydogaethau Llanllechid a Llandegai; hyny yw, yn yr arddull ddiweddar, neu yn hytrach yr arddull glasurol. Ystyrid ef gan rai fel tad yr holl Gerddorion enwog sydd wedi codi yn y plwyfydd hyn yn ystod y deugain mlynedd diweddaf.

JOHN PARRY, CARNEDDI

Mab ydoedd Mr. John Parry i Mr. Henry Roberts, Carneddi. Ganwyd ef yn y lle uchod yn y flwyddyn 1808. Chwarelwr oedd ef o pan yn 12 oed hyd nes y cyraeddodd 27 mlwydd oed. Ychydig o fanteision addysg a gafodd. Bu am ychydig flynyddau mewn ysgol ddyddiol pan yn fachgen ieuanc. Gan ei fod o'i ieuenctyd o duedd ymchwilgar, ac o ymddygiad a bywyd moesgar, daeth yn mlaen trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd yn feddianol ar ddysg a gwybodaeth, yn fwy, mae yn ddiameu, na nemawr un yn y gymydog aeth y dyddiau hyny. Pan tua 15eg oed, dechreuodd ymwneyd â Cherddoriaeth. Aeth yn mlaen yn gyflym gyda'r addysg hon; a chyn ei fod yn 20ain oed, yr oedd wedi cyfansoddi rhai tonau rhagorol. Cyn bod yn 24ain oed, yr oedd wedi cyfansoddi lluaws o donau sydd yn cael eu rhestru yn uchel gan y Beirniaid goreu.

Wedi iddo adael 24ain oed, daeth i'w feddwl amcanu am ryw sefyllfa a galwedigaeth well na gweithio fel chwarelwr. Llafuriodd yn ddiwyd ddydd a nos am amryw flynyddau i geisio cyraedd dysgeidiaeth gyffredinol; megys Ysgrifeniaeth, Rhifyddiaeth, Daearyddiaeth, Ieithyddiaeth, &c., a thrwy ei lafur, cyraeddodd raddau helaeth o wybodaeth yn y gwahanol gangenau hyn. Pan yn 28ain oed, trwy nawdd y diweddar a'r Tra Pharchedig Ddeon Cotton, Bangor, cafodd ei ddewis,