Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III

Y CERDDORION

MAE yn debyg nad oes unrhyw ddau blwyf yn Nghymru wedi magu cymaint o Gerddorion, a'r rhai hyny yn Gerddorion o enwogrwydd, a phlwyfydd Llanllechid a Llandegai. Mae canu a chantorion Bethesda wedi bod yn ddiareb flynyddau yn ol. Mae yn rhaid i ni gydnabod nad ydyw canu Bethesda yn sefyll mor uchel o lawer ag y bu. Ond yn bresenol ni a gawn sylwi ychydig ar y rhai hyny ag ydym yn ystyried yn deilwng o'u cyfrif yn wir enwogion yn y gangen o Gerddoriaeth. Mae yn wir fod rhai ohonynt yn sefyll yn llawer uwch na'r lleill.

Cawn enwi yn gyntaf, –

EVAN THOMAS, TYNYCLWT.

Ganwyd Mr. Thomas yn Tan y Coach House, ger Chwarel y Cae, yn y flwyddyn 1806. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. Evan Thomas, Tynyclwt. Cafodd ei ddwyn i fyny o'i ieuenctyd yn Organydd, a bu yn derbyn ei addysg gyda Dr. Black, Organydd Eglwys Gadeiriol Caerlleon. Gallem ddyweyd ei fod yn Gerddor athrylithgar, ac yn chwareuydd rhagorol. Bu yn gwasanaethu fel Organydd yn Eglwys St. Ann's, Llandegai, am oddeutu 18 mlynedd, pryd y rhoes ei le i fyny i fyned i fyw at ei fam i Tynyclwt, lle y bu hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Ionawr 15, 1867. Cydnabyddir ef yn Gerddor uchel gan ei holl gydnabod. Ystyrid ei gyfansoddiadau yn arddangos cryn wybodaeth gerddorol, yn nghydag awen wir barod at gyfansoddi. Mae yn debyg fod mwy o'r mireindra, y tynerwch, &c., ynddo, na'r un Cerddor a fagwyd yn y ddau blwyf. Nid gormod fyddai dyweyd mai iddo ef ar y cyfan y