Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn yn rhwydd. Yn ddiweddar cawsom gyfleustra i weled ei weithiau, pa rai sydd yn barod i'w cyhoeddi, pe ceid digon o gefnogaeth. Rhoddwn restr ohonynt. Un llyfr a gyhoeddodd erioed, sef "Cystrawiaeth yr iaith Gymraeg" Mae y darnau canlynol ganddo yn barod i'r wasg, "Gramadeg Cymraeg," "Geiriadur Rhimynol" o eiriau un-sill yn yr iaith Gymraeg, "Cyfieithiad o "Paradise Regained" (Adenilliad Gwynfa) Milton. "Aralleiriad o Lyfr Job i Farddoniaeth." Mae y cyfansoddiad hwn tuag wyth mil o linellau. "Aralleiriad o Lyfr y Pregethwr," dan yr enw "Solomon," mewn wyth ar ugain o ganeuon, yn cynwys, neu yn gosod allan wagedd y byd o ran ei wybodaeth, ei bleser, a'i allu." Llyfr o Gyfarwyddyd i Gymro ddysgu yr iaith Seisnig," testyn yn eisteddfod Dinbych, pryd yr enillodd Gweirydd ap Rhys. Pryddest ar y "Croeshoeliad," yn nghyda phryddest ar "Fy ngwlad a fy nghartref," testyn yn eisteddfod Caernarfon. Nid ydym yn deall iddo ymgystadlu ond dwywaith neu dair, ac nid ydym yn deall iddo enill erioed. Cydnabydda pawb ei fod yn fardd o radd uchel; ond nid yw ei iaith mor llyfn a naturiol ag y buasai yn ddymunol.

Heblaw ei fod yn ieithwr enwog, ac yn fardd da, mae hefyd yn meddu ar allu annghyffredin i naddu coed â chyllell. Gwna hyn pan y byddo wedi blino ysgrifenu, fel i newid gwaith. Mae yn deilwng o sylw, iddo wneyd tair cadair fawr yn hollol â'i gyllell, ac heb un hoel yn yr un ohonynt. Anrhegwyd y Parch. E. Lewis, diweddar Gurate Llanllechid, âg un, yr hon oedd yn cynwys MIL o ddarnau; anrhegodd y Parch. J. Price, diweddar Gurat Glanogwen, ag un arall, yr hon oedd yn cynwys NAW CANT A HANER o ddarnau; ac mae ganddo un eto yn ei gartref yn cynwys WYTH GANT o ddarnau.