Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yr Aelwyd yn Gartref," yr hwn oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Bethesda, 1863; Llythyrau Alethinos ar "Athrawiaeth yr Iawn," yn y Faner, fel sylwadau ar Adolygiad y Parch. J. Jones, Vulcan, ar "Athrawiaeth yr Iawn," gan Dr. Edwards y Bala. Cawn hefyd mai efe ydyw awdwr y Traethawd rhagorol a ymddangosodd yn y Traethodydd am Ebrill, 1866, ar "Awdlau Abertawy," yn nghyda llu o fân gyfansoddiadau a ymddangosodd yn y newyddiaduron a'r misolion o dro i dro.

OWEN WILLIAMS (Owain Glyndwr)

Ganwyd Owain Glyndwr yn y flwyddyn 1831. Cydnabyddir ei fod yntau yn fardd lled dda. Yr ydym yn deall iddo gael cryn dipyn o gyfarwyddiadau gan Robyn Wyn, a Robyn Ddu Eryri.

Mae yntau wedi cyhoeddi llyfryn o farddoniaeth; ac mae rhai darnau ohono yn lled awenyddol a chlws, a rhai ereill heb fod mor dda. Yr ydym yn cael yr awd wr yn tra rhagori arno ei hun weithiau.

Mae er's amryw flynyddau bellach yn oruchwyliwr cyfrifol mewn chwarel yn Ffestiniog.

W. WILLIAMS (Gwilym Llechyd)

Ganwyd G. Llechyd yn y Carneddi, yn y flwyddyn 1803. Gan nad oedd ei rieni ond tlawd, ni dderbyniodd ond ychydig addysg, efe, na'i frawd, y diweddar Barch. John Williams, Bangor, (Coetmor gynt). Gwel rhestr y pregethwyr. Er na chawsant nemawr ddim moddion addysg yn moreu eu hoes, eto, cyraeddasant raddau mwy na'r cyffredin o wybodaeth, a hyny yn benaf trwy eu diwydrwydd a'u dyfal-barhad.

Nid oes un petrusder ynom i ddyweyd am G. Llechyd, na fagwyd Cymreigydd gwell, os cystal ag ef yn mhlwyf Llanllechid. Yr ydym yn credu y cydnabydda pawb