Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mynegwyd hyn mewn geiriau im ',
Mai curo trwm fu ar y " Trum."
Rho'f gynghor wrth ddybenu, mai gwell fo iti grefu
Am ras y Brenin Iesu, cei nefol fael am hyny:
Bydd gorfod iti, ddydd a ddaw, wynebu Barnwr Brenin Braw.

Yr oedd fel dadganyddd hefyd yn meddu ar un o'r lleisiau mwyaf swynol yn y plwyf.

ROBERT LLYSTYN JONES

Mab ydyw Llystyn i John Jones, Cae-maes-gollen, Llandegai; ac fe'i ganwyd yn y lle hwnw yn y flwyddyn 1830. Dygwyd ef i fyny fel chwarelwr yn Chwarel y Cae hyd nes y daeth i gryn oedran, pryd y cafodd le mewn Machine yn y gwaith uchod. Ychydig o addysg foreuol a gafodd; ac o'r ychydig hyny, gwnaeth ddefnydd da ohono. Trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd, cyraeddodd i gryn raddau o wybodaeth mewn gwahanol gangenau. Yn y flwyddyn 1865, codwyd ef gan gyfarfod Misol Arfon i bregethu yr efengyl. Nid fel pregethwr yr ydym yn ystyried Llystyn wedi enwogi ei hun, ond fel bardd. Cydnabyddir gan bawb ei fod yn fardd rhagorol. Mae ei gyfansoddiadau bob amser yn wreiddiol, yn naturiol, yn dlws, ac yn wir ddyddorol. Yr ydym yn ystyried fod ganddo rai darnau yn y rhydd fesurau sydd yn deilwng o'u gosod wrth ochr y darnau goreu sydd genym. Cawn ei fod wedi cyfansoddi cryn lawer; ond y mae yn debyg mai y pethau goreu a wnaeth hyd yn hyn ydyw y darnau canlynol: "Y Boreu," "Yr Hwyr," "Angladd Pentrefol," "Euronwy Eryri," "Gwladus Lleyn," "Tŷ fy Nhad," "Y Bywyd-fad," "Cenfigen," " Henaint," &c. Hefyd, "Marwnadau " ar ol E. Rogers, Adwy'r clawdd," y Parch. M. Hughes, Felinheli, a W. W. Thomas, Caellwyngrydd, heblaw lluaws o fân ganeuon ac englynion. Yr ydym yn deall fod amryw o'r darnau uchod yn rhai buddugol. Cyhoeddodd draethawd ar