Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

JOHN PARRY, JERUSALEM

Ganwyd Mr. J. Parry yn Llidiartygwenyn, Llanllechid, yn 1816. Yr oedd ei dad ef, Mr. Henry P. Hughes, yn ddadganydd o'r dosbarth cyntaf yn ei ddyddiau ef. Mae J. Parry wedi ymarfer â chanu er yn blentyn, a phan yn ddeg oed, ymunodd â chôr capel y Carneddi; ac mae ef o hyny hyd yn bresenol yn aelod yn un o gymdeithasau canu yr ardal. Mae yn arweinydd y canu yn Jerusalem er's dros ugain mlynedd. Ychydig o wersi a gafodd gan neb mewn Cerddoriaeth. Yr hyn a gafodd oedd gan yr anfarwol R. Williams, Cae Aseth, a hyny pan yn fachgen lled ieuanc. Cyfansoddodd luaws o Donau Cynulleidfaol, ac amryw Alawon, a bu yn fuddugol amryw weithiau mewn Eisteddfodau a Chyfarfodydd Llenyddol. Dichon mai fel ar weinydd côr y mae J. Parry wedi enwogi ei hun yn benaf, er ei fod yn gerddor da, ac yn ddadganydd tra chymeradwy.

DAVID ROBERTS (Alawydd.)

Mab i Mr. Moses D. Roberts, Gof, Caerberllan, ger Bethesda, yw Alawydd. Ganwyd ef yn Mehefin, 1820. Ychydig o addysg a gafodd yn nyddiau ei ieuenctyd. Yr ydym yn cael iddo ddechreu gweithio fel Chwarelwr pan rhwng 10 ac 11 oed. Gan mai Annibynwyr oedd ei rieni, aeth yntau wrth gwrs i'w canlyn, ac felly ymunodd â chôr Bethesda pan yn dairarddeg oed. Yn fuan ar ol hyn cawn iddo ddechreu efrydu Cerddoriaeth; a thrwy ei fawr lafur a'i ddiwydrwydd, efe a ddaeth allan yn orchfygwr.

Er mai Mr. G. Rowlands (Asaph Bethesda) oedd arweinydd y canu yn Bethesda er's blynyddau, eto cynygiodd ef y flaenoriaeth lawer gwaith i Alawydd,