Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond yn ofer. Mae y ddau yn cytuno i flaenori er's blynyddau, a hyny gyda thawelwch a'r tangnefedd mwyaf.

Mae Alawydd wedi dechreu cyfansoddi pan tuag ugain oed. Ychydig o gymhorth oedd i'w gael gan neb yn y gymydogaeth tua'r amser hwnw. Mae ei addysgiaeth i'w briodoli gan mwyaf i'w lafur diflino ef ei hunan. Yn y flwyddyn 1848, cyhoeddodd wersi mewn Cerddoriaeth o dan yr enw "Gramadeg Cerddoriaeth."

Yn mhen ychydig amser ar ol hyn, ymroddodd i ail gyfansoddi ei Ramadeg, a hyny gyda'r penderfyniad i'w chwanegu yn llawer mwy nag oedd ar y cyntaf. Yn y flwyddyn 1862, cyhoeddwyd yr ail argraffiad, a derbyniodd gymeradwyaeth unfrydol prif Gerddorion ein cenedl. Hefyd, cyfansoddodd lawer. Yn y flwydd yn 1851, 1852, a 1853, yn Eisteddfodau Gerddorol Bethesda, enillodd wobrau ac arian-dlysau am yr Anthemau goreu; a theg yw hysbysu fod y testynau yn agored i'r holl fyd.

Fe allai y dylem grybwyll iddo, ar ol ail argraffu ei Ramadeg Cerddorol, werthu y Copyright i'r Meistri Hughes, Wrexham, am gan punt.

Mae yn amlwg i Alawydd neillduo ei hunan yn gwbl at Gerddoriaeth Gysegredig, a hyny mae yn debyg am fod y maesydd mor eang, a'r byd Cerddorol fel byd heb derfyn iddo, os nad felly y mae. Yr ydym yn deall fod Llyfr Tonau Cynulleidfaol iddo yn y wasg yn bresenol, ac mae yn ddiameu y ceir yn y llyfr hwn ddigon o amlygiad o'i allu a'i gymeriad ef fel Cyfansoddwr, Trefnwr, a Chynghaneddwr Tonau Cynulleidfaol.

OWEN DAVIES (Eos Llechid).

Mab yw'r Eos i'r diweddar D. Humphreys (Brodor