Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o Machynlleth), o'i wraig Sarah, yr hon oedd unig ferch y diweddar Mr. Owen Morris, Cae'r Ffynon, Llanllechid. Ganwyd ef yn Medi 1828. Ni chafodd y Cerddor talentog ac athrylithgar hwn yr un diwrnod erioed o ysgol, ond yn unig yr Ysgol Sabbothol. Ei waith yn moreu ei oes oedd cyniwair ar ol у defaid hyd fynyddoedd rhamantus Llanllechid. Mae yn ddiddadl i'r golygfeydd prydferth sydd i'w canfod yn y mynyddoedd hyn gynhyrfu ei ermigau darfelyddol, nes iddynt yn y canlyniad gynhyrfu ei serchiadau at Gerddoriaeth.

O dan y fath anfanteision mae rhyw hynodrwydd arbenig yn perthyn i'r Eos anad fawr neb y gwyddom amdano. Nid oedd o fewn cyraedd iddo neb a allai ei hyfforddi mewn Cerddoriaeth, er fod amryw o rai lled enwog yn ardal Bethesda. Nid oedd chwaith ond ychydig o gyfarwyddiadau Cerddorol yn yr iaith Gymraeg yn amser ei ieuenctyd.

Fodd bynag, trwy ryw gynhyrfiad nas gellir yn hawdd roddi cyfrif amdano, aeth yn mlaen yn wyrthiol bron. Astudiodd gamut fechan a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Gerddorol Ceryg y Druidion. Hefyd, un y diweddar J. Parry, Caerlleon; y Caniedydd Crefyddol; Allwedd Cerdd Arwest, &c. Trwy ymarfer â'r rhai hyn, a hyny heb gymhorth un athraw, daeth yn alluog i ddarllen Cerddoriaeth pan tua 13eg oed. Ystyrid ei gynyrchion y pryd hwn yn hynod o athrylithgar. Yn yr adeg yma prynodd Ramadeg Cerddoriaeth y Parch. J. Mills. Astudiodd hwnw yn drwyadl. O 16eg i 18eg oed, dechreuodd ei awen fflachio, a chyfansoddodd rai darnau tlysion a tharawiadol. Wedi iddo feistroli y Gramadegau Cymreig ar Gerddoriaeth, trodd ei feddwl at efrydu yr iaith Seisneg; ac nid hir y bu nad oedd yn