Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallu sugno maeth i'w feddwl o feddyliau y Seison. Cyn bod yn 22ain oed yr oedd wedi astudio gwaith gorchestol Albrechtbeger ar Gyfansoddiant, yn ddwy gyfrol. Hefyd, gwaith Cherubini ar Gyfansoddiant, yn nghyda gweithiau Weber, Zerug, Reieta, &c. Deng ys hyn yn amlwg fod ynddo dalent gref at addysgu. Wedi iddo basio ei 20ain oed, ni a'i cawn yn dechreu ymgystadlu yn Eisteddfodau Cerddorol Bethesda 1851, 1852, 1853, &c., yn mha rai yr oedd prif gerddorion Cymru yn ymgystadlu. Ond fe enillodd ef yn mhob un ohonynt—weithiau yn fuddugol, pryd arall yn ail oreu. Enillodd mewn amryw Eisteddfodau ereill yn y De a'r Gogledd; ac fe ystyrir ei Anthemau yn rhai aruchel a chlasurol. Yn yr arddull gaeth y mae ei holl gyfansoddiadau bron; ac fe'i ystyrir gan bob Beirniad yn gampwr yn y cyfryw arddull.

Hefyd, cyfansoddodd "Gantawd Gwarchaead Harlech," yr hon a gafodd dderbyniad croesawgar mewn amryw fanau. Siaradai y prif Gerddorion yn uchel iawn amdani fel cyfansoddiad meistrolgar, athrylith gar, ac awengar. Mae yn Arweinydd côr eglwys Llanllechid er's dros 20ain mlynedd. Bu hefyd yn Arweinydd y "Church Choral Society" am bedair blynedd, mewn cysylltiad â pha un y cafodd yr anrhydedd o ymddyddan wyneb yn wyneb â'r Frenines Victoria, a'r diweddar Dywysog Cydweddog, yn Nghastell y Penrhyn, yn y flwyddyn 1859. Pan yn arwain y côr uchod yn ei phresenoldeb, yn y Castell, cafodd ganddi bob cymeradwyaeth, a chanmolai y Tywysog cydweddog (yr hwn oedd ei hun yn gerddor galluog) y côr yn fawr. Cafodd y Frenines ei boddhau cymaint ar y pryd, fel yr anrhegodd y côr â CHWPAN ARIAN ardderchog. Yn y flwyddyn 1864, bu yn arwain Cymdeithas