Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gorawl Eglwysi Llandaf; ac yn y flwyddyn 1867, mae yn dylyn yr un alwedigaeth.

Gallem chwanegu mai nid Cerddor yn unig yw Eos Llechid; na, y mae yn rhifyddwr da, yn deall Algebra ac Euclid yn dda; yn Athronydd Cerddorol, yn Hanesydd a Chymreigydd gwych. Ystyrir ef hefyd yn gryn awdurdod fel Hynafiaethydd. Mae yn fardd lled dda. Cyfansoddodd amryw gywyddau, englynion, &c. Bu yn Feirniad Cerddorol hefyd mewn amryw Eisteddfodau Cenedlaethol, yn nghyda lluaws o fân Eisteddfodau.

JOHN THOMAS (Eos Bochlwyd)

Ganwyd Eos Bochlwyd yn Penygroes, Llandegai, yn y flwyddyn 1830, yr hwn sydd fab i Mr. Thomas Williams o'r lle uchod. Ymddengys ei fod yn efrydu Cerddoriaeth er pan yn ieuanc. Derbyniodd ei addysg trwy astudio gweithiau Dr. Manx yn ei "School of Composition," ALBRECHTSBERGER yn ei "Thorough Bass, Harmony, and Composition," a LOGIER yn ei "System of the Science of Music, Harmony, and Prac tical Composition." Yr ydym yn cael iddo fod yn fuddugol amryw weithiau gyda Thonau Cynulleidfaol, Alawon, &c., a hyny mewn lleoedd lled bwysig. Cydnabyddir yr Eos yn gerddor da, ac yn gyfansoddwr meistrolgar. Yn y flwyddyn 1863, enillodd ar y Dôn Gynulleidfaol oddiar 53 o ymgastleuwyr yn Eisteddfod Bethesda.

WILLIAM GRIFFITH (Gwilym Caledffrwd)

Dyma ŵr ieuanc eto, un o brif gerddorion Llanllechid a Llandegai. Ganwyd ef yn Penisa'r Allt, Llandegai, yn y flwyddyn 1832. Ychydig o fanteision addysg a gafodd yn ei ieuenctyd. Yr ychydig wersi cerddorol