Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf a gafodd oedd gan J. Morgan, Penygroes. Cawn iddo astudio Gramadeg Cerddorol y Parch. J. Mills yn fanwl, a hyny pan yn dra ieuanc; hefyd, Gramadeg Cerddorol Alawydd. Trwy ei lafur, ei ddiwydrwydd, a'i ddyfal-barhâd gyda'r Gramadegau hyn, daeth yn mlaen gyda'r gelfyddyd awengar hon, fel yr ystyrir ef erbyn heddyw yn perthyn i'r dosbarth blaenaf o gerdd orion y plwyfydd hyn. Mae yn debyg mai ychydig sydd ynddynt wedi cyfansoddi cymaint ag ef. Yn y flwyddyn 1860 ymfudodd i'r America, lle y cawn ei fod yn dra llafurus gyda'r canu a cherddoriaeth. Yr ydym yn deall mai efe yw arweinydd y canu yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd yn Middle Granville. Yn y lle hwn, tua dwy flynedd yn ol, dechreuodd gyhoeddi Cyf rol o Ganigau, o dan yr enw, "Y Canigydd Cymreig." Cawsom gyfleusdra i weled y rhan gyntaf, yr hon oedd yn cynwys pedair Canig fuddugol mewn Eisteddfodau a Chyfarfodydd Llenyddol yn yr America. Enwau y Canigau ydynt, "Yr Aderyn pur," "Y Gwanwyn," "Y Bardd," ac "Yr Eos." Ar yr amlen cawn y geiriau canlynol:—"Bwriada yr awdwr gyhoeddi 6 neu 10 o Rifynau fel hwn, i wneyd y gyfrol yn ddestlus, os derbynia ddigon o gefnogaeth." Mae'r gŵr ieuanc hwn wedi cyfansoddi lluaws mawr o Gydganau, Anthemau, Canigan, Tonau, Alawon, &c., a'r rhan fwyaf ohonynt wedi bod yn fuddugol mewn Eisteddfodau, &c.

Nid yn unig mae G. Caledffrwd yn gerddor rhagorol, ond cawn ei fod yn fardd da hefyd. Gwelsom un dern yn rhagorol o'i waith ar yr "Ysgol SABBOTEOL," pa un oedd yn fuddugol yn Middle Granville, 1862.

THOMAS JONES, ORGANYDD, LLANDEGAI

Mr. Jones sydd fab i Mr. H. Jones, clochydd eglwys Llandegai, yr hwn a anwyd yn y flwyddyn 1833.