Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Derbyniodd ei addysgiaeth Gerddorol ac Offerynol gan Dr. Pring, Organydd Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae yn ei swydd o Organydd yn eglwys Llandegai er y flwyddyn 1847. Ystyrir ef yn gerddor da, ac yn chwareuydd tra medrus. Yn y flwyddyn 1853, cafodd ei ddyrchafu yn ysgrifenydd (clerk) ar stad Arglwydd Penrhyn, mewn cysylltiad âg adeiladu; ac yn y flwydd. yn 1861 dyrchafwyd ef eilwaith i fod yn gynorthwyydd i brif Oruchwyliwr yr un etifeddiaeth.

ROBERT DAVIES (Asaph Llechid)

Mab ydoedd Mr. R. Davies i'r diweddar Mr. David Roberts, Carneddi. Ganwyd ef yn y Carneddi Mehefin 29, 1834, a bu farw yn ddisymwth, trwy i ddarn o graig syrthio arno yn Chwarel-cae-braich-y-cafn, Awst 29, 1858.

Mae yn ddiameu mai fel Cerddor yr oedd holl enwogrwydd R. Davies yn gynwysedig. Bu farw yn ieuanc, fel y gwelir, ac wedi rhoddi ei holl astudiaeth ar Gerddoriaeth. Derbyniodd ei wersi cyntaf gan y Meistri R. Moses a R. Roberts, Carneddi; ond buan yr aeth y dysgybl yn uwch na'i athrawon; canys yr oedd yn efrydydd diwyd a di-ildio, a chanddo gyneddfau cryfion at hyny.

Yn y cyfwng yna daeth yn gydnabyddus âg Eos Llechid, gan yr hwn y cafodd wersi mewn cangenau uwch yn y gelfyddyd, sef Cyfansoddiant. Efrydodd y rhanau mwyaf dyrys, a hyny mewn amser byr, a daeth yn gyfansoddwr Tonau, Anthemau, Cydganau, &c., tra rhagorol, y rhai a ystyrir gan ein Beirniaid yn meddu ar deilyngdod uchel. Enillodd mewn Cystadleuaethau Cerddorol fwy nag unwaith. Fel cyfansoddwr arddangosodd dalent naturiol gref; ac yr oedd yn dyfod i fwy