Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o fri ac enwogrwydd yn barhaus. Clywsom un beirniad enw yn dyweyd y buasai, yn ol pob arwydd, pe cawsai fyw ychydig, yn myned yn un o'r Cerddorion mwyaf yn Nghymru. Pe na fuasai wedi cyfansoddi dim ond yr Anthem anfarwol hono, "Dyn a aned o wraig," &c., mae yn ddiameu y buasai wedi tragwyddoli ei enw yn mhlith cenedl y Cymry. Cawn iddo gyfansoddi amryw Anthemau pan nad ydoedd ond 16 oed. Wele restr o destynau y cyfansoddodd Anthemau mawrion ar nynt:—"Clodforwch yr Arglwydd "—"Ein Tad trugarog"—"Dyn a aned o wraig "—" Y nefoedd sy'n dadgan gogoniant Duw "—" Bendithiwch yr Arglwydd "—"A bydd yn y dyddiau diweddaf"—"Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu"—"Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd"—"Mawl a'th erys di yn Seion"—"Ymddyrcha, O Dduw"—"Teyrnasiad Dirwest"—"Am hyny rhown iti'r clod"—"Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin," &c., yn nghyda lluaws o dônau cynulleidfaol gwir enwog a chymeradwy.

Gyda golwg arno fel un yn meddu ar athrylith, a dawn at gyfansoddi, braidd na ddywedem ei fod yn annghymharol. Clywsom lawer gwaith y cyfansoddai anthem faith mewn un noswaith. Mae yn ddiameu i gapel y Carneddi gael colled fawr trwy ei farwolaeth ef.

WILLIAM TIOMAS, CAELLWYNGRYDD

Mab ydoedd Mr. Thomas i William ac Ann Thomas, o'r lle uchod. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1835. Dangosai allu neillduol i ddysgu pan yn bur ieuanc. Gallai ddarllen Cymraeg a Seisneg yn lled dda pan yn bedair blwydd oed. Derbyniodd ei addysg pan yn fachgen mewn ysgol yn Mangor. Aeth oddiyno drachefn i Farndon, ger Caerlleon, at Mr. Rushby. Ar ei ddychweliad