Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adref oddiyno, rhwymwyd ef fel ysgrifenydd gyda H. Ll. Jones, Ysw., Cyfreithiwr, Bangor, lle y bu yn gwasanaethu hyd nes y cymerwyd ef yn glaf, fel i'w analluogi i ddylyn ei alwedigaeth. Bu yn y lle hwn am yn agos i ddeaddeng mlynedd. Hydref 7fed, 1863, gorphenodd ei yrfa mewn llawenydd, yn 28 mlwydd oed. Nid ydym yn ystyried yn weddaidd iawn i ni ddyweyd llawer amdano, a hyny oherwydd ein cysylltiad perthynasol ag ef. Caiff ereill lefaru amdano. Dywed Mr. E. Jones, Athraw Ysgol Frutanaidd Llanllechid, awdwr ei Gofiant, fel y canlyn:—" Yr oedd W. Thomas yn ŵr ieuanc na cheir ei gyffelyb ond yn bur anfynych. Nid ydym yn cofio dyfod i gydnabyddiaeth âg un dyn yn ein hoes ag y buasai yn gymaint gorchest nodi bai ynddo ag ydoedd W. Thomas. Nid ydym chwaith wedi cyfarfod â chymaint ag un yn meddu chwaeth burach, a'r fath gywirdeb ac addfedrwydd barn. Yr oedd yn llenor o'r iawn ryw. Nid ydym yn meddwl y methem wrth ddyweyd ei fod wedi ysgrifenu mwy o draethodau na neb a adawodd ar ei ol yn ardaloedd poblogaidd Bethesda, a byddai y rhai hyny braidd bob amser yn fuddugol. Mae yn debyg mai yr olaf a ysgrifenodd ydoedd yr un a gyfansoddwyd ganddo gogyfer ag Eisteddfod Bethesda, yn 1863, sef y flwyddyn y bu farw, ar "Wir Fawredd," i'r hwn y rhoes y Beirniad y ganmoliaeth uwchaf. Yr oedd hefyd yn Gerddor rhagorol. Yr oedd wedi astudio Cerddoriaeth yn fanwl ac i bwrpas. Bu yn fuddugol amryw weithiau ar Donau Cynulleidfaol."

Dywed Eos Llechid amdano fel Cerddor, "Yr oedd yr holl Gerddorion oedd yn ei adnabod yn ei ystyried yn Gerddor o radd uchel. Gwyddai yn dda am ddeddfau Cynghanedd a Melodedd; ac yr ydoedd wedi