Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymgynefino â gweithiau' y prif feistriaid yn y gelfyddyd." Yr oedd yn fardd da hefyd. Cyfansoddodd Bryddest ragorol, tua 500 o linellau, ar " Yr Adgyfodiad." Dywed Llystyn fel hyn amdano mewn marwnad ar ei ol,

"Gwneyd rhuthrgyrch dystaw ar wybodaeth wnai,
I gastell addysg megys lleidr yr âi;
I'w alwedigaeth rhoes ddifrifol fryd,
Ond nid y gyfraith ga’dd ei sylw i gyd.
Trwy goedwig fawr Cerddoriaeth rhodio bu,
Anadlodd yno rai alawon cu.
A gerddi heirdd Barddoniaeth ddenai' fryd,
Meithrinodd aml flodeuyn teg ei fryd.
Ar fryn Llenyddiaeth treuliodd lawer nawn,
Lle cyfansoddodd rai traethodau llawn
O wir athrylith, perlau' i feddwl doeth,
A gemau gwerthfawr ei athrylith goeth."

Dywed J. Gaerwenydd Pritchard hefyd yn ei farw nad, yr hon oedd yn gydfuddugol ag un Llystyn:

Ymdreiddiai ei enaid i enaid a nerth
Y cerddor, y bardd, a'r duwinydd;
Ymffurfiai ohonynt ei feddwl yn gryf,
A'i arddull yn wreiddiol a newydd:
Ei lyfrgell arddengys ei brofiad a'i farn,
Addfedrwydd ei chwaeth ddiwylliedig;
Ei lygaid eryraidd yn canfod y tlws,
A'i galon yn teimlo'r mawreddig.

Nid meddwl cyffredin allasai fwynhau
Cynyrchion ein prif dywysogion;
Ymweithio i'w calon yn wylaidd nes cael
Eu meddwl a'u gwerthfawr gyfrinion:
Ein William ymdeimlai'n gartrefol yn mysg
Ein Handel, ein Milton, a'n Butler,
Ein Howe, a'n Paley, prif ddynion y byd,
Ein Coleridge, ein Edwards, a'n Foster.

JOHN DAVIES (Eos Ogwen)

Ganwyd Mr. Davies yn y flwyddyn 1836. Derbyn iodd ei addysg Gerddorol gan ei dad, Mr. Morris Davies, Tyntwr, yn nghyda thrwy gyfrwng Gramadegau