Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cerddorol. Cydnabyddid ef yn gerddor da er's blynyddau, a hyny pan yn ieuanc iawn. Cyfansoddodd amryw Donau Cynulleidfaol, Alawon, &c, o ba rai yr oedd amryw yn fuddugol.

EVAN W. THOMAS, ORGANYDD, ST. ANN'S

Mab yw Mr. Thomas i Mr. W. E. Thomas, Tyn-y clwt, Llandegai. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1839. Derbyniodd ei wersi cyntaf mewn Cerddoriaeth gan ei ewythr galluog, y diweddar Mr. E. Thomas, Tynyclwt. Yna bu o dan addysg gyda John Owen, Ysw. (Owain Alaw), Caerlleon. Aeth oddiyno yn Organydd i Landrillo. Symudodd oddiyno yn fuan i Swydd Essex; a chyn hir fe gafodd y swydd o Organydd yn eglwys St. Ann's, Llandegai, lle y mae yn derbyn cymeradwyaeth uchel yn bresenol. Ystyrir Mr. Thomas yn Gerddor galluog, ac yn chwareuydd medrus a chywrain ar amrywiol offerynau heblaw yr Organ. Cawn ei fod hefyd yn adgyweiriwr galluog ar bob math braidd o offerynau cerdd. Bydd hefyd yn attendio 'r Eisteddfodau, Cyngherddau, a Chyfarfodydd Llenyddol, fel chwareuydd ynddynt.

ROBERT ROBERTS, ORGANYDD EGLWYS GADEIRIOL BANGOR

Mab yw Mr. Roberts i'r diweddar Mr. Edward Roberts, Tanysgrafell, Llandegai, a Cheidwad helwriaeth i Arglwydd Penrhyn. Ganwyd ef yn Mai 24, 1840. Amddifadwyd ef o'i dad pan yn fachgen ieuanc; ac oherwydd amgylchiadau ei fam ni chafodd ond ychydig o ysgol. Aeth i weithio i chwarel Cae-braich-y-cafn pan tua 12 mlwydd oed. Dangosodd fod ynddo ddefnydd cerddor pan yn ieuanc iawn. Gan ei fod yn feddianol ar gof annghyffredin, yr hyn oedd yn gymhorth mawr