Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo, daeth yn mlaen gyda chyflymdra neillduol. Pan yn fachgen ieuanc, daeth yn gydnabyddus â'r Cerddor enwog Eos Llechid, a chafodd ei egwyddori ganddo yn elfenau cyntefig Cerddoriaeth a Chaniadaeth; ac oherwydd ei ddeall a'i amgyffredion annghyffredin, tynodd sylw Mr. S. Haydn, Organydd St. Ann's ar y pryd; a thrwy gyfrwng ei ddylanwad ef, llwyddodd i'w gael i'r Training College yn Nghaernarfon. Dygwyd ef i fyny yn y Coleg hwnw fel yr oedd yn gymhwys i fyned yn athraw ysgol. Yn lle myned i gadw ysgol, cafodd ei benodi i fod yn drydydd athraw yn y Coleg. Parhaodd felly am amryw flynyddau. O'r diwedd rhoddodd y swydd o athraw i fyny, a chanlynodd yn mlaen gyda'i hoff gelfyddyd—Cerddoriaeth. Er rhoddi y swydd fel athraw i fyny, eto, cafodd y swydd o addysgu efrydwyr y Coleg mewn Cerddoriaeth, chwareu offerynau, &c.

Cyfansoddodd lawer iawn o ddarnau gorchestol. Cyfansoddodd Gantawd ardderchog ar "Gwarchaead Castell Harlech." Siaradir yn uchel amdani gan y prif Gerddorion. Cyfansoddodd amryw Ganigau, Caneuon, &c., pa rai a brisir yn fawr gan gantorion y wlad yn gyffredinol.

Yn y flwyddyn 1866, etholwyd ef i fod yn is-organydd yn Eglwys Gadeiriol Bangor; ac yn ddiddadl fe osodwyd yr iawn ddyn yn yr iawn fan. Fel chwareuydd mae yn anhawdd cael ei well. Ystyrir ef yn un o oreuon Cymru ar y Piano; ac nid yn unig ar y Piano, yr Organ, &c., ond y mae yn wir feistrolgar fel Crythwr (Violinist).

Nid fel cerddor yn unig y mae Mr. Roberts wedi enwogi ei hun; na, y mae yn llenor campus. Ystyrir ef fel Hanesydd yn y dosbarth cyntaf. Mae yn Hynafiaethydd campus, ac yn Dduwinydd galluog.