Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhagorel. Enwai y ser a'r planedau, eu pellder, eu maintioli, eu cylchdroadau, &c., fel pe buasai wedi bod yn preswylio ynddynt holl ddyddiau ei einioes. Clywsom mai gydag ef y bu Arfonwyson yn cael y gwersi cyntaf erioed mewn seryddiaeth. Yr oedd yn dduwinydd da, ac yn henafiaethydd gwych. Bu farw Mehefin 21, 1843, yn 65 mlwydd oed,

WILLIAM GRIFFITH, CILFODAN, a ddygwyd i fyny yn amaethydd parchus gyda'i dad. Dygwyd ef i fyny o ran ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor, a gwnaeth y defnydd goreu o'i amser ynddi. Yr oedd W. Griffith yn un gwir enwog yn mhlwyf Llanllechid yn ei ddydd. Yr oedd llawer iawn o ragoriaethau yn perthyn iddo. Mae yn debyg ei fod yn un o'r rhai dysgedicaf yn y plwyf yn ei ddyddiau ef. Yr oedd yn wladwr rhagorol, yn hynod ddeallus mewn materion plwyfol, yn mha rai yr ystyrid ei air fel cyfraith bob amser. Byddai y wlad yn d'od ato am gynghorion cyfreithiol. Gwnaeth ganoedd o ewyllysiau, gweithredoedd, &c. Yr oedd yn deall Seisneg yn gampus, yn Gymreigiwr rhagorol, ac yn Lladinwr gweddol. Fel cristion yr oedd ei rodiad yn addas a diargyhoedd. Eglwyswr oedd ef hyd o fewn yr 20ain mlynedd diweddaf o'i oes; yna bu yn aelod hardd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Carneddi. Bu farw yn y flwyddyn 1860, yn 86 mlwydd oed. Gallem ddyweyd i dri o'i feibion ddringo i fyny i safle lled uchel o ran dylanwad:—Thomas, fel blaenor eglwysig, wedi hyny fel pregethwr, (gwel taflen y pregethwyr); William, fel ysgolhaig a relieving officer; a Morris, fel cyfreithiwr tra dysgedig a galluog.

WILLIAM WILLIAMS, LLANDEGAI, a anwyd yn Trefdraeth, Môn, ac a flodeuodd tua chanol y ganrif ddiweddaf. Yr oedd W. W. yn llenor o'r iawn ryw