Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arall.] Yna cymerodd Morris Ellis le ei frawd yn Nghilfodan fel amaethydd. Mae y gŵr hwn wedi ymfudo i'r America er's dros bedwar ugain mlynedd. Cawn fod iddo ferch yn byw yn America yn bresenol, ac yn dra chyfoethog Chwaer i'r Henry Ellis hwn oedd Elizabeth Ellis, Tyddynisaf, un o'r gwragedd crefyddol cyntaf yn mhlwyf Llanllechid, yr hon, meddir, a gafodd ei throchi gan y Bedyddwyr yn afon Ffrwdlas. Tad hefyd oedd yr Henry Ellis hwn i Ellis Parry, y Groeslon (tad Henry Ellis, Meddyg, Bangor), yr hwn a ystyrid yn un o'r ysgolheigion a'r llenorion penaf yn mhlwyf Llanllechid yn ei ddydd. Efe hefyd oedd tad y diweddar Owen Ellis Ysw., o'r Cefnfaes, Llanllechid, yr hwn a ddaeth yn etifedd Cilfodan ar ol ei dad. Yr oedd yntau yn llenor da yn ei ddydd, ac yn ŵr o ddylanwad mawr yn mhlwyf Llanllechid, yn neillduol yn ei gysylltiad âg achosion plwyfol, &c.

Gallem chwanegu fod ei feibion yn llenorion enwog, sef y diweddar Henry Ellis, Talybont; Owen Ellis, Ysw., ac Humphrey Ellis, Ysw., o'r Cefnfaes. Derbyniodd y tri bob manteision addysg pan yn ieuanc. Cydnabyddir hwy yn ysgolheigion tra rhagorol, ac yn wir gydnabyddus â gweithiau y prif awdwyr, hen a diweddar.

JOHN MORRIS, Y BRONYDD. Ganwyd y gŵr hwn yn y Bronydd, yn y flwyddyn 1778. Yr oedd yn frawd i daid Eos Llechid o du ei fam. Er na chafodd ond ychydig o addysg foreuol, eto, trwy lafur a diwydrwydd, cawn ei fod wedi cyraedd graddau lled bell mewn amryw gangenau gwybodaeth. Ystyrid ef yn ei oes yn ddaearyddwr campus. Byddai yn hyfrydwch mawr ei glywed yn enwi gwahanol deyrnasoedd y ddaear, eu maintioli, eu trafnidiaeth, rhifedi eu trigolion, natur eu crefydd, a'u cyfreithiau, &c. Cawn hefyd ei fod yn seryddwr