Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unwaith gan Herw Heliwr am Geiliog y Mynydd; ond ni chanlynodd y camgymeriad farwolaeth i'r ffidler. Fodd bynag, diangodd yr Herw Heliwr o'r wlad, na welwyd mwy mohono.

THOMAS WIĻLIAMS, TALYBONT, a fu byw ac a flodeuodd tua dechreu y ddeunawfed ganrif. Cyhoeddodd yntau hanes dyfodiad cenedl y Cymry i'r wlad hon mewn llyfryn bychan, yr hwn sydd yn hynod o ddiffygiol o ran trefn, cynllun, ac orgraff. Ystyrid ef yn ei ddyddiau, yn un o brif enwogion Llanllechid.

WILLIAM PARRY, O DALYBONT, oedd yn un o'r ysgolheigion penaf yn mhlwyf Llanllechid, tua chan mlynedd yn ol. Ganwyd ef tua chant a deuddeng mlynedd ar ugain i eleni. Derbyniodd ei addysg foreuol yn Ysgol Friars, Bangor. Cawn ei fod yn llenor campus yn ysgolhaig rhagorol, yn ieithwr da yn y Gymraeg, y Seisneg, a'r Lladin. Nis gallem lai nag ystyried gŵr o'r nodwedd uchod, yn y dyddiau tywyll hyny ar lenyddiaeth yn gwir deilyngu ei restru yn un o brif enwogion ei blwyf. Cawsom yr hyfrydwch o weled ei lawysgrif er's yn agos i chwech ugain mlynedd, ac nis gallem lai na'i hystyried yn y dosbarth cyntaf. Bu iddo chwech o blant—tri mab a thair merch. Nid oes ond un yn fyw, sef Ellen, yr ieuengaf ohonynt, yr hon a anwyd yn y flwyddyn 1789, ac sydd yn byw yn bresenol yn Talybont. Bu farw W. Parry Mai 1af, 1823, yn 88 mlwydd oed.

HENRY ELLIS, Ysw., CILFODAN. Yr oedd y gŵr hwn yn byw tua chanol y ddeunawfed ganrif, a chyn hyny. Efe oedd etifedd (aer) Cilfodan. Wedi i'w frawd, Dr. Griffith Ellis, ymadael o'r Groeslon, Llanllechid, i fyw i Fangor, fe aeth Henry Ellis i'r Groeslon yn ei le. [Gwel hanes Dr. G. Ellis mewn cwr