Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llundain a Dublin. Derbyniodd y gradd o M.D. pan yn bur ieuanc. Mae erbyn hyn wedi derbyn amrywiol deitlau heblaw yr uchod. Cydnabyddir ef fel un o'r Doctoriaid uwchaf yn y deyrnas er's llawer o flynyddoedd. Bu am amryw flynyddau yn attendio Hospital Bangor. Symudodd o ddinas Bangor er’s tua deu ddeng mlynedd i ddinas Llundain.Yn awr mae yn byw yn nghymydogaeth Salisbury, ger Llundain.

PENNOD V.

CYMERIADAU AMRYWIAETHOL

Rydym yn cael fod cryn lawer o bersonau heblaw a enwyd wedi bod, ac yn bod yn bresenol, ag a ystyrid yn dra enwog yn eu dyddiau yn Llanllechid a Llandegai, ac felly ni a gawn enwi rhai ohonynt. Enwn yn gyntaf yr hen

HUMPHREY CRYMLYN. Yr ydym yn cael iddo ef gael ei eni yn ngwaelod plwyf Llanllechid, a hyny tua chanol yr ail ganrif ar bymtheg. Yr oedd yn Ser-ddewin enwog, ac yn cario ei ddylanwad Ser-ddewinol dros y wlad; a mawr oedd y grediniaeth a roddid iddo. Yr oedd yn ysgolhaig gwych-yn tra rhagori ar neb o'i gymydogion. Gallai fel seryddwr fesur y pellder i'r lloer, neu i un o'r planedau, gyda chywreinrwydd annghyffredin. Ystyrid ef yn rhifyddwr tra rhagorol.

IDRIS DELYNOR a anwyd, fel yr adroddir, yn ardal Ciltwllan, a hyny tua chanol yr unfed ganrif ar bymtheg. Yr oedd nid yn unig yn delynor, ond yr oedd hefyd yn ffidler gwych. Dywedir mai oddiwrtho ef y derbyniodd "Ffynon Ffidler," yn y Waen-lydan, ei henw; ac am y byddai yr hen Idris yn arferol o fyned i Waen -lydan i dynu pabwyr, camgymerwyd ef