Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn athronydd dwfn. Ysgrifenodd draethawd athronyddol ar "DDIM," yr hwn a ymddangosodd yn y Greal flynyddau yn ol. Mae Mr. Thomas wedi ym adael o wlad ei enedigaeth i Liverpool er y flwyddyn 1844, lle yr ymsefydlodd, ac yno y mae hyd yn bresenol.

HENRY ELLIS, M.R.C.S., BANGOR

Mab yw y Meddyg parchus hwn i'r diweddar Ellis Parry, o'r Groeslon, Llanllechid. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1817. Cafodd ei ddwyn i fyny mewn ysgolion da pan yn fachgen ieuanc. Wedi iddo dyfu i fyny i oedran cymhwys, rhwymwyd ef am bum mlynedd gyda'r Meddyg gwir alluog, John Roberts, Ysw., Bangor. Yna bu am ddwy flynedd yn Richmond Hospital, School of Anatomy, Medicine, &c., Surgery, Dublin. Hefyd, treuliodd dymor yn Ysbyttai Llawfeddyginiaethol Richmond, Whitworth, a Hardwicke yn Dublin. Pasiodd ei arholiad yn Llundain yn hynod o lwyddianus, fel yr enillodd amryw raddau (degrees). Efe yw Doctor Undeb Bangor a Beaumaris, dros blwyfi Bangor, Aber, a Llanfairfechan, er's amryw flynyddau. Ystyrir ef yn feddyg gwir galluog a gofalus. Nid yn unig mae yn Feddyg da, yn llenor campus, ac yn fardd rhagorol, ond mae yn ddiweddar wedi cael allan ddarganfyddiad rhyfeddol, sef ffordd i ddefnyddio math o gyffyr meddygol i wneyd papur i wasanaethu yn lle llechi ysgrifenu yn yr ysgolion dyddiol.

JOHN ROBERTS, YSW., DOLAWEN, LLANDEGAI

Ganwyd Mr. Roberts yn y flwyddyn 1821. Mab. ydyw i'r diweddar Cornelius Roberts, Ysw., Dolawen. Cafodd J Roberts bob manteision addysg pan yn ieuanc. Dygwyd ef i fyny yn mhrif Golegau Phisygwriaeth