Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gyda golwg arno fel Meddyg, neu fel "Professor of the Remedial Magnetism, Galvanism, and Practical Phrenology," cawn fod ei gyfundrefn yn ymddibynu ar ei ddarganfyddiadau ef ei hunan yn unig. Mae yn ffaith mai ychydig o blant dynion sydd wedi cyraedd gwybodaeth ymarferol o'r gwyddorau dyeithr hyny fel ag i'w gwneuthur yn wasanaethol i symud ymaith anhwylderau y corff dynol, a hyny heb arfer un math o gyfferi. Y ffaith yw, y gall Mr. Thomas, trwy ei gyfundrefn, a'i ddarganfyddiadau o ansawdd a rhinwedd dymgyrchiad y corff dynol, ei defnyddio, a'i throsglwyddo mewn modd cymhwys a dyladwy, a hyny ar fyrder, i, a thrwy gorff yr afiach, fel i beri iachâd, a hyny heb ei roddi i gysgu ar y pryd mewn un modd yn fesmerawl (fel y tybir gan rai), na chwaith trwy ddefnyddio un math o gyfferi meddygol.

Mae peirianau Galfaniol Mr. Thomas yn hollol wahanol i unrhyw beirianau ereill —wedi eu gwneyd yn ol ei gynllun ei hun, ac i'w bwrpas ei hun, ac felly, yn llawer cymhwysach at feddyginiaethu nag un math arall. Mae Mr. Thomas wedi bod yn nodedig o lwyddianus gyda'i feddyginiaeth. Ar gyfrif y llwyddiant mawr oedd yn dylyn ei gyfundrefn, addawodd, a chyhoeddodd yn yr holl gyhoeddiadau, a hyny am flynyddau, ei fod yn barod i wasanaethu ac iachau y Cymry tlodion am ddim, os byddent yn methu cael neb i wneyd lles iddynt. Mae yn ddiameu fod y fath gynyg, a'r fath arwydd o serch Cenedlaethol, yn teilyngu ein gwir a'n serchog gydnabyddiaeth. Nid yn aml y ceir y fath arwydd o haelfrydedd a charedigrwydd oddiar law un o'r fath gymeriad. Nid yn unig y mae Josephus Eryri yn feddyg da, ond y mae hefyd yn llenor campus, yn fardd da,