Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r daioni y mae wedi ei wneyd fel Meddyg (neu Ddoctor, os mynwch) i filoedd trwy y gwledydd, America a Lloegr, gystal a Chymru, yn rhoddi hawl, ac yn rhoddi gorfodaeth arnom fel gwlad i'w alw yn ddim amgen na "Doctor y Pant"' -enw a barhâ yn hir yn Ngogledd Cymru. Cymeriad hynod ydoedd Dr. y Pant. Nis gallwn roddi cyfrif boddhaol, hyd yn nod i ni ein hunain, amdano. Mae yn ddiameu ei fod yn gymeriad ar ei ben ei hun yn hollol. Un wedi ei dori o'r clai, a'i ffurfio a'i ddonio gan anian yn ei choleg syml ei hunan ydoedd. Gallem ddyweyd yn hyf ei fod wedi gwneyd canoedd, os nad miloedd o orchestion. Bu farw yn 1867, yn 72 mlwydd oed. Nis gallwn derfynu hyn o sylwadau yn well na chyda у llinellau canlynol o waith J. Gaerwenydd Pritchard, pa rai a gyfansoddodd tua dwy flynedd cyn marwolaeth yr hen Ddoctor.

"Ni ganwn a'r galon, a theimlwn ei thant,
I wresog longyfarch hen "Ddoctor y Pant:"
Erioed ni chlybuwyd, ar dir nac ar ddwr,
Am Feddyg doluriau yn ail i'r hen wr.
Pob math o ddoluriau ar bawb o bob gwlad,
Wellëir gan y Doctor yn rhwydd ac yn rhad."

JOSEPH THOMAS (Josephus Eryri)

Ganwyd Mr. Thomas yn y Perthi Corniog, Llandegai, yn y flwyddyn 1805. Yr ydym yn deall nad ydyw yn ddyledus i neb am addysg foreuol, na chwaith un math o addysg na hyfforddiant mewn un modd yn yr hyn y mae yn ei broffesu. Mae yn ddiameu fod ei holl ddealltwriaeth, a'i wybodaeth gyffredinol ag y mae wedi elwa, yn ffrwyth ei lafur a'i ddiwydrwydd ef ei hun yn unig, a hyny trwy ymchwiliad parhaus, er yn fachgen, i ansawdd ac egwyddorion deddfau anian a natur.