Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

debyg iddo. Gyda golwg ar gasgliadau yn y cnawd, ysigdod, &c., byddai bob amser yn debyg iawn o ragori ar bob meddyg trwy'r wlad. Cadwodd hanes "Brwyn ddail y mynydd" iddo ei hun, er ymgais lluaws o brif ddoctoriaid у wlad; ond dywedodd cyn marw eu bod i'w cael ar ochr "Cegin y Cythraul," ger Llyn Idwal. Dywedir nad oedd y dail hyn i'w cael tuyma i fynyddoedd yr Alps ond yn y lle hwn. Yr oedd hefyd yn llenor da.

OWEN MORRIS, TYDDYN DU, LLANLLECHID,

ydoedd fab i Mr. O. Morris o'r lle uchod. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1780, a bu farw yn 1853. Yr ydym yn cael iddo gael ei ddwyn i fyny yn mhrif Golegau Llundain. Bu yn gwasanaethu fel Doctor yn y fyddin, yn India'r Dwyrain, am tua 46 mlynedd. [Gweltudal en 10fed o'r llyfr hwn.]

JOHN OWENS, PANTYFFRWDLAS,

oedd fab i'r diweddar Mr. Owen Evans, Cwlyn, Llanllechid. Ganwyd ef yn y lle uchod yn y flwyddyn 1795. Mae yn ddiameu fod y diweddar John Owens, fel Meddyg casgliadau, ysigdodau, briwiau, &c., yn tra rhagori ar neb yn y rhan hon o'r wlad. Yr ydym yn cael iddo dderbyn ei addysg gan y Doctoriaid cyfrifol hyny,-Dr. O. O. Roberts, Bangor; Dr. J. Roberts, Penyclip, Bangor; Dr. J. Roberts, Dolawen; T. Roberts, Ysw., Bangor (Doctor Chwarel y Cae ar y pryd); Dr. Griffiths, Bangor, &c.

Gŵr oedd yn dra adnabyddus yn Siroedd Gogledd Cymru oedd "Doctor y Pant." Nid Dr. wedi derbyn urdd mewn unrhyw Goleg oedd; na, yr oedd wedi ei dderbyn o uwch a phwysicach lle o lawer. Mae y lles