Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV

Y MEDDYGON

GYDA golwg ar y Meddygon canlynol, pa rai a anwyd yn y plwyfydd hyn, nis gallwn lai na'u hystyried yn gwir deilyngu eu rhestru yn mhlith "Enwogion Llanllechid a Llandegai." Y cyntaf a enwn fydd

GRIFFITH ELLIS, YSW., CILFODAN

Ganwyd y meddyg hwn yn Cilfodan, Llanllechid, tua'r flwyddyn 1737. Adnabyddid ef y dyddiau hyny wrth yr enw, "Doctor Ellis, Cilfodan." Symudodd i fyw i Fangor, lle y treuliodd weddill ei oes fel Doctor Phisygwriaeth. Bu yn derbyn ei addysg yn y prif Ysbyttai yn Caerlleon. Yr oedd y Doctor hwn yn frawd i'r grefyddwraig dda hono, yr hon oedd y grefyddwraig gyntaf, mae yn debyg, gyda'r Ymneillduwyr yn mhlwyf Llanllechid; sef, Elizabeth Ellis, Tyddynisaf. (Gwel "Methodistiaeth Cymru.") Hefyd, yr oedd yn ewythr o frawd ei daid i Humphrey Ellis, Ysw., Cefnfaes; ac yn ewythr yr un modd i Henry Ellis, Ysw., Meddyg, Bangor. Y Doctor G. Ellis a adeiladodd y Groeslon, Llanllechid, y waith gyntaf.

OWEN ROWLANDS, BLAEN-Y-NANT

hefyd, oedd Feddyg nodedig i gyfeirio ato o bob gwlad yn yr oes o'r blaen. Ganwyd ef tua'r flwyddyn 1742, a bu farw yn y flwyddyn 1817. Dyn tal, syth, boneddigaidd, a'i wallt fel y gwlan, oedd ef. Yr oedd yn feddyg esgyrn da; ond fel Llysieuydd yr oedd ef wedi enwogi ei hun yn benaf. Nid oedd neb yn y wlad, yn ei ddyddiau ef, yn deall natur dail, a'u rhinweddau, yn