Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

17eg oed, aeth i'r ysgol am ychydig amser, yna rhwymwyd ef mewn masnachdy yn Llanrwst, lle y bu yn bwrw ei brentisiaeth. O Lanrwst aeth i Fangor i sefydlu masnachdy bychan, ond yn araf deg aeth y fechan yn fawr, a'r wael yn gref; ac am lawer o flynyddoedd cyn ei farwolaeth, yr oedd wedi cyraedd safle mor uchel, fel yr oedd ei fasnach a'i fasnachdy y mwyaf yn y ddinas; ac mae yn ffaith fod ei gyfoeth yn gymaint bron a'r eiddo neb yn holl gymydogaeth Bangor. Ganwyd iddo fab, yr hwn a alwodd ar ei enw ei hun, a'r hwn sydd yn fyw yn bresenol; a gallem ddyweyd yn hyf, ei fod yn un o'r rhai mwyaf ei ddylanwad yn holl Ddinas Bangor. Arferir galw un o Ariandai Bangor ar ei enw, am mai efe a'i sefydlodd, mae yn debyg.

GRIFFITH W. PREES, UPPER BANGOR, a anwyd yn Camgymro, Llanllechid, yn y flwyddyn 1797. Mab ydyw G. W. Prees i'r diweddar W. Prees, Camgymro. Cydnabydda pawb yn mhlwyf Llanllechid fod G. W. Prees, tua 40ain mlynedd yn ol, yn un o'r ysgolheigion penaf yn y plwyf. Derbyniodd ei addysg foreuol gyda'r diweddar Morris Griffith, Llanllechid. Pan yn 21ain oed, aeth i Penygarnedd, Môn, i gadw ysgol ddyddiol. Yn mhen y ddwy flynedd symudodd i gadw ysgol i'r Dwyrain, Môn, lle y bu am ddwy flynedd. Oddiyno aeth i Beaumaris yn Rhwymwr llyfrau, lle y bu am dair blynedd; yna daeth i gadw ysgol ddyddiol i gapel y Carneddi, i'w ardal enedigol. Bu yma am dair blynedd, sef, hyd nes yr ail-adeiladwyd y capel i'r wedd sydd arno yn bresenol. Ar ol hyn, bu amryw flynyddau yn rhwymo llyfrau yn ardal y Carneddi. Yn y flwydd yn 1839 cafodd y swydd o casglwr trethi (collector), yn mhlwyf Llanllechid, lle y bu am un mlynedd ar ddeg, pryd y dyrchafwyd ef yn relieving oficer Llanllechid a