Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bangor; ac o'r flwyddyn 1854, nid oedd ond relieving officer dros Fangor yn unig; ac er's pedair blynedd yn bresenol, rhoes y swydd i fyny, ac nid oes ganddo ar ei ofal yn bresenol ond y Registration yn unig. Mae ei fab R. G. Prees yn gasglwr trethi (collector) ac yn registrar yn Llanllechid yn bresenol. William ei fab a anwyd yn y flwyddyn 1822. Dygwyd ef i fyny yn ysgolhaig gwych. Cafodd le yn excise officer pan yn 24ain mlwydd oed. Bu am ychydig amser cyn cael у lle hwn yn athraw ysgol yn Llanidloes. Y lle cyntaf y bu yn exciseman oedd Iwerddon. Symudwyd ef yn fuan o'r lle hwn i Lanfairmuallt. Oddiyno i Aberaeron. Dyrchafwyd ef o'r lle hwn i fod yn division officer i Aberystwyth: Anfonwyd ef o Aberystwyth ar distillery i Liverpool; o Liverpool i Lundain i gael ei arholi, lle y pasiodd yn dra llwyddianus. Ar ol hyn bu yn Llundain yn examiner. Oddiyno anfonwyd ef i Diss, Swydd Norfolk, lle y dyrchafwyd ef yn supervisor. Bu yn y lle hwn amryw flynyddau. Yn y flwyddyn 1863 symudodd i ddosbarth Conwy, lle y mae yn gwasanaethu yn bresenol.

WILLIAM T. ROGERS, Ysw., BEAUMARIS. Mab yw Mr. Rogers i'r diweddar Thomas Rogers, Machine, Goruchwyliwr cyfrifol yn chwarel y Cae tua 60 mlynedd yn ol. Ganwyd W. Rogers yn y lle a elwid y pryd hwnw, Machine, ond sydd erbyn hyn wedi ei gladdu gan rwbel y gwaith yn y flwyddyn 1807. Dygwyd ef i fyny yn stone cutter, neu yn hytrach carver ar feini. Mae yn debyg y gellir ei restru yn mhlith y carvers cyntaf yn y deyrnas. Wedi iddo gyraedd y fath safle fel crefftwr, rhoes ei hun i fyny fel adeiladydd, yr hwn mae yn debyg a adeiladodd fwyaf o eglwysydd,