Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

capelydd, a phalasdai, o bawb yn Nghymru. Efe ydoedd awdwr y Normal College, Bangor, &c.

Fel carver bu yn fuddugol luaws o weithiau. Derbyniodd driarddeg o dlysau mewn cystadleuaethau yn Llundain, rhai yn aur ac ereill yn arian. Efe hefyd oedd y buddugol yn Eisteddfod Aberystwyth am gerfio yn y Fine Arts.

Yn y flwyddyn 1857, derbyniodd yr anrhydedd o fod yn "Fellow of the Royal Architectural Society;" ac am ysgrifenu traethawd ar ddysgyblaeth ac anianyddiaeth adeiladaeth, anfonwyd iddo yr anrhydedd o fod yn "Fellow in the Royal Society." Fel ysgrifenydd ac awdwr, ystyrir ef yn un tra galluog. Ysgrifenodd erthyglau i'r Times, Llundain, am dros ugain mlynedd yn wastad.

Yr oedd yn un o gyfeillion penaf y diweddar a'r anfarwol John George Gibson, yr hwn a fu farw yn ddiweddar yn Rhufain, a'r hwn oedd hefyd yn brif gerfiwr y byd. Gallem chwanegu, a dywedyd fod ei lyfrgell, gydag eithriad neu ddwy, y fwyaf yn ynys Môn.

JOHN THOMAS, Ysw., LLANYMDDYFRI, a anwyd yn Bethesda, Llanllechid, yn y flwyddyn 1831, yr hwn sydd fab i'r diweddar David Thomas, Coach & Horses Inn, Bethesda. Cafodd J. Thomas bob mantais a allesid ddymuno i gael addysg dda, efe gystal a'i holl frodyr a'i chwiorydd. Wedi iddo dderbyn addysg briodol, dygwyd ef i fyny fel clarc yn un o ariandai Bangor. Oddiyno dyrchafwyd ef i ariandy Treffynon, lle y bu am chwe blynedd yn gwasanaethu fel arian-gyfrifydd (accountant), a thrachefn arian-dalwr (cashier). Dyrchafwyd ef o'r lle hwn i fod yn arolygwr (manager) ariandy yn Llanymddyfri, lle y mae er's 7 mlynedd