Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bellach. Gallem chwanegu fod iddo dri o frodyr, pa rai sydd yn ei ddylyn gyda'r un swydd anrhydeddus, sef William, Richard, a David. Mae yn ddiameu, os caiff y brodyr hyn hir oes, y deuant i safle uchel mewn enwogrwydd a dylanwad.

WILLIAM FRANCIS, Ysw., BRYNDERWEN, ydoedd fab i W. Francis, Ysw., o'r lle uchod, yr hwn hefyd sydd yn oruchwyliwr cyfrifol ar chwarel Cae braich y cafn er's tua 43 mlynedd, o dan G. H D. Pennant, Ysw., o Gastell y Penrhyn, a thrachefn o dan E. G. D. Pennant, Arglwydd Penrhyn. Ganwyd W. Francis, Ysw., ei fab, yn y flwyddyn 1830. Wrth gwrs derbyniodd yntau bob manteision addysg, a gwnaeth yn dda o'r manteision hyny. Nid pawb sydd yn gwneyd. Yn gymaint a'i fod yn ŵr ieuanc o gyneddfau cryfion, ac yn meddu ar y fath ddysgeidiaeth glasurol, ymunodd â'r gymdeithas fasnachol fawreddus hono—y " West Indies Company." Bu yn aelod o'r gymdeithas hono am amryw flynyddau. Bu farw yn Alexandria, yr Aifft, yn y flwyddyn 1857, yn 27 mlwydd oed.

Join Francis, Ysw., BRYNDERWEN, sydd fab i'r W. Francis, Ysw., uchod, a brawd i'r diweddar W. Fran cis (ieu.), Ysw., o'r lle uchod. Ganwyd yntau yn y flwyddyn 1829. Cydnabyddir ef fel goruchwyliwr yn un o'r dosbarth cymhwysaf i'r fath swydd bwysig, a hyny fel un hynaws, caredig, a gwir deimladwy. Mae yn amheus a fu boneddwr o oruchwyliwr erioed yn derbyn mwy o glod a chymeradwyaeth gan ei weithwyr na John Francis o Brynderwen. Nid yn unig mae yn ddo bob cymhwysder fel goruchwyliwr, ond cydnabydd ir ef hefyd yn un o beirianwyr cyntaf ein gwlad. Fel cynllunydd peirianau (civil engineer), ystyrir ef yn y dosbarth cyntaf.