Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

JOHN THOMAS, TYNYCLWT, sydd fab i'r diweddar Evan Thomas o'r lle uchod, yr hwn oedd y pryd hwnw yn brif oruchwyliwr yn chwarel Cae braich y cafn, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1834, yn 65 mlwydd oed. Yn gymaint a bod rhieni Mr. J. Thomas o amgylchiadau da, dygwyd ef i fyny yn ysgolhaig rhagorol. Yn y flwyddyn 1823, cafodd le i fyned yn brif ysgrifenydd (clerk) yn chwarel Cae braich y cafn, ac mae yn ddiameu y buasai yn anhawdd cael neb a fuasai yn llanw ei le.

PENNOD VI.
YR YSGOLFEISTRIAID

MAE yn debyg nad oes cynifer o ysgolfeistriaid wedi eu cyfodi o unrhyw ddau blwyf yn Nghymru ag sydd wedi cyfodi o blwyfydd Llanllechid a Llandegai. y daflen ganlynol, ni a gawn enwi cynifer ag a ddarfu i ni fedru gael allan oedd yn enedigol yn y ddau blwyf. Ffaith hynod yw, na bu ond rhyw dri neu bedwar, o'r holl nifer a godwyd, yn athrawon mewn unrhyw ysgol yn y plwyfydd erioed. Mae yn wir i ryw ychydig o'r rhai cyntaf sydd yn y daflen fod, rhai yn Llanllechid, ac ereill yn Llandegai. Yn nghorff y deugain mlynedd diweddaf, ni bu cymaint ag un athraw genedigol o'r plwyfydd hyn yn athraw mewn unrhyw ysgol yn un o'r ddau blwyf. Dichon y dylem grybwyll hyny, fod amryw ohonynt wedi ymadael o'r swydd, a'i chyfnewid am un arall rhai i'r weinidogaeth, ereill yn oruchwylwyr, a rhai yn collectors, &c., &c.

Caiff y * arwyddo fod y personau yn athrawon trwyddedig. Caiff B arwyddo yr Ysgolion Brytanaidd;