Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dosbarth y Trydydd
ENWOGION LLANLLECHID A LLANDEGAI, OND HEB FOD
YN ENEDIGOL YNDDYNT

WRTH y dosbarth hwn yr ydym yn golygu, y personau hyny a anwyd allan o'r plwyfydd uchod, ond a ddaethant iddynt pan yn ieuanc, ac a gyraeddasant ynddynt safle uchel mewn enwogrwydd. Daeth amryw ohonynt yma pan yn blant, a buont byw ynddynt ar hyd eu hoes. Ond i fyned yn mlaen yn rheolaidd, ni a drefnwn y dosbarth hwn yn yr un wedd ag y trefnwyd Dosbarth yr Ail.

PENNOD I. GWEINIDOGION YR EFENGYL

CAWN fod yn y plwyfydd hyn luaws mawr o Offeiriaid, yn Barsoniaid a Chiwradiaid, wedi bod yn gweinidogaethu—rhai ohonynt yn hynod mewn drygioni a llygredigaeth; a'r lleill yn rhai nodedig o dda, ac wedi bod yn foddion i wneyd llawer o les a daioni yn y plwyfi lle yr oeddent yn gweinidogaethu. Ar ryw gyfrif, nid ydym yn ystyried y cyfryw rai yn d'od i fewn yn briodol i'n testyn. Heblaw hyny, gellir cael cryn lawer o'u hanes yn " Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid," gan Hugh Derfel Hughes. Yn bresenol awn yn mlaen i wneyd ychydig sylwadau ar ychydig ohonynt.

Cawn enwi yn gyntaf yr

ARCHESGOB JOHN WILLIAMS, D.D.

Yr ydym yn gwneyd sylw ar y gŵr hwn yn benaf, ar y cyfrif ei fod o deulu Cochwillan, yn mhlwyf