Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llanllechid, ac hefyd am y cawn iddo fod yn byw am ychydig o amser yn niwedd ei oes yn Tyntwr. Gelwir ei dŷ gan lawer hyd heddyw yn "Dy John York," a hyny mae yn ddiameu am mai Archesgob York oedd ef. Mab ydoedd J. Williams i Edmund Williams, Ysw., o Gonwy; ac yr oedd E. Williamsyn fab i W. Williams, o'r Cochwillan. Mam J. Williams oedd Mary, merch Owen Wynne o Eglwysbach. Cawn i J. Williams gael ei eni yn y flwyddyn 1582. Pan yn fachgen, bu yn yr ysgol ddyddiol yn Rhuthin. Symudodd oddiyno i Gaergrawnt (Cambridge). Yr oedd hyn pan oedd tua. 16eg oed. Cawn iddo enill y radd o M.A. yn fuan, ac wedi hyny y radd o D.D. Dyrchafwyd ef yn Ddeon Sarum; drachefn yn Ddeon Westminster. Gosodwyd ef yn y lle olaf hwn tua'r flwyddyn 1620. Wedi hyn gwnaed ef yn " Geidwad Sel Fawr y deyrnas," yn y flwyddyn 1621. Wedi hyny gwnaed ef yn Esgob Lincoln, yr hyn a fu yn y flwyddyn 1621, a chadwai y swydd o " Arglwydd Geidwad " ar yr un pryd. Ar ol hyn gwnaed ef yn Archesgob York. Nis gallwn gael allan hyd sicrwydd pa flwyddyn y bu hyn, ond cymer odd le yn nheyrnasiad Charles y cyntaf. Bu farw yn Gloddaeth y 25ain o Mawrth, 1650, yn 68 mlwydd oed. Claddwyd ef o dan allor eglwys Llandegai.

Gyda golwg ar dalentau neillduol yr Archesgob hwn, dichon y byddai yn lled anhawdd dyweyd mewn beth yn fwyaf neillduol yr oedd yn rhagori. Ystyrid ef yn rhagorol mewn Duwinyddiaeth. Yr oedd yn ieithydd gwych dros ben. Dywedir ei fod yn nodedig o hyawdl hefyd. Fel seneddwr neu wladyddwr yr oedd ef yn fwyaf hysbys, a hyny o lawer; ac fe allai y gellir dyweyd ar ryw gyfrif mai dyma oedd y