Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neillduolrwydd penaf ynddo. Mae yn wir fod llawer o ragoriaethau yn angenrheidiol i wneyd dyn yn neillduol fel seneddwr neu wladyddwr.

Cawn ar Wyddfa goffadwriaethol iddo yn eglwys Llandegai, yn mhlith pethau ereill, yr hyn a ganlyn: "Yr oedd yn dra dysgedig yn yr holl wybodaethau: yn drysorfa naw iaith: mêr duwinyddiaeth pur a dilwgr: oracl o gallineb gwleidyddol: yn symbalo hyawdledd: ei gof yn afaelgar tu hwnt i ddynion ereill: adeiladydd gweithiau mawrion, hyd at draul o ugain mil o bunau: siampl hynod o haelfrydedd, a thosturi at y tlodion." Cyfodwyd yr Wyddfa hon iddo gan ei nai, &c. a'i etifedd Syr Gruffydd Williams, Bar. o'r Penrhyn, ar yr hon y cerfiwyd bedd -argraff Lladin iddo, o gyfan soddiad yr esgob Hacket.

ESGOB GRIFFITH WILLIAMS, D.D., PLAS HOFA.

Nid oedd yr Esgob G. Williams, mwy na'i gyfaill, Archesgob J. Williams, yn rhai genedigol o Llanllechid na Llandegai; eto, dywedir iddo hanu o deulu y Penrhyn a'r Cochwillan; ond gan fod G. Williams wedi bod yn trigianu yn mhlwyf Llanllechid am tua 12 mlynedd, ac amgylchiadau neillduol yn dal cysylltiad â'i hanes yma, dichon na byddai ychydig linellau arno ddim yn annerbyniol. Ganwyd G. Williams yn Nhrefeillan, yn mhlwyf Llanrug, ger Caernarfon, yn y flwyddyn 1587. Derbyniodd ei addysg foreuol mewn ysgol yn Nghaernarfon. Yn y flwyddyn 1603, derbyniwyd ef i Goleg Crist yn Rhydychain. Gadawodd y Coleg hwn, ac aeth at ei gyfaill J. Williams i Gaergrawnt. Yn fuan ar ol hyn, cafodd y radd o M.A., a derbyniodd y fywoliaeth o Gaplan i Philip, Iarll Trefaldwyn, a hyny yn y flwyddyn 1614. Oddiyno dyrchafwyd ef yn