Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Beriglor St. Bennet, Sherlock. Oddiyno aeth i St. Pedr, Llundain, yn ddarlithiwr, a bu am bum mlynedd drachefn yn ddarlithiwr yn Eglwys St. Paul, Llundain. O'r lle hwn cafodd Bersonoliaeth Llanllechid gan Arch esgob Caergaint, lle y bu yn derbyn cymeradwyaeth mawr fel pregethwr tra galluog, a christion cywir. Gan ei fod yn wir ddysgedig mewn duwinyddiaeth, a hanesyddiaeth ysgrythyrol, &c., cafodd ei ddyrchafu yn gapelwr i Charles y cyntaf. Yn yr adeg hon, sef yn 1628, derbyniodd y gradd o D.D.; ac yn fuan ar ol hyn gwnaed ef yn Ddeon Bangor, ac Archddiacon Môn. Yn y flwyddyn 1641, gwnaed ef yn Esgob Ossory yn Iwerddon. Yn fuan wedi ei benodiad i'r esgobaeth hon, torodd gwrthryfel mawr allan yn yr Iwerddon; a chan ei fod yntau yn pleidio y brenin ar y pryd, bu gorfod iddo ffoi am ei fywyd i Loegr.

Bu am dymor megys ar ffo hyd Loegr, yn Northampton, Rhydychain, &c. Efe a ddyoddefodd lawer oddiwrth y senedd ar gyfrif ei ffyddlondeb i'r brenin: ac yn fuan efe a ym neillduodd i Gymru, lle y bu yn byw yn Plas Hofa, dybygid, am oddeutu deuddeng mlynedd, ar lai nag ugain punt yn y flwyddyn, gan fyw o ran ymborth, dillad, a gwaith, fel tyddynwr cyffredin. Ond, efe a orfucheddodd ei holl gyfyngderau, ac a adferwyd i'w holl fuddianau eglwysig, a bu farw yn ei esgobaeth yn yr Iwerddon, Mawrth 29, 1672, yn 84 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn ei Eglwys Gadeiriol yn Nghilceni, Iwerddon ar adgyweiriad yr hon y treuliasai efe lawer o'i arian. Efe a adeiladodd wyth o elusendai i weddwon, tlodion, gan eu gwaddoli i ddeugain punt yn y flwyddyn. Gadawodd hefyd y Plas Hofa i dlodion plwyf Llanllechid dros byth, ac mae yr ardreth, sef yr arian, i'w rhanu bob dydd Gwyl Domas, gan berson y plwyf.