Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yr esgob G. Williams yn awdwr tra galluog hefyd. Cyfansoddodd lawer o lyfrau tra dysgedig a galluog, ac yn eu plith cyhoeddwyd un llyfr mawr, ar ddull corff o Dduwinyddiaeth, o'r enw, " YR IAWN FFORDD I'R GREFFYDD OREU." Cynwysa tua phedair ar ugain o bregethau a thraethodau ar wahanol destynau. Llyfr arall o'i waith a gynwys draethawd lled faith, yn yr hwn y mae yn ymosod yn llym ar y Puritaniaid. Mae'r llyfr yn gyflwynedig "I'r gwir anrhydeddus, y gwir rinweddol, a'r mwyaf gwir grefyddol Philip, Arglwydd Herbert o Sherland, Iarll Trefaldwyn, Marchog o Anrhydeddus Urdd y Gardys, a'r Arglwyddes Susan, ei wir anrhydeddus a hawddgaraf wraig." Yr oedd efe ar y pryd yn gapelwr i'r pendefig uchod. Ar wyneb-ddalen y llyfr, geilw ei hun " Gr. Williams, Athraw yn y Cefyddydau, a Pheriglor St. Bennett, Llundain.

Cyfansoddodd lyfr arall mewn ffurf o lythyrau, cyflwynedig i'r Gwir Anrhydeddus a'r Gwir Barch. Dad yn Nuw, John, Arglwydd Esgob Lincoln, Arglwydd Ceidwad y Sel Fawr," & c. Yn hwn y sylwa fel yr oedd yr esgob John Williams wedi bod y fath gefn iddo, ac fel yr oedd wedi derbyn cynifer o ffafrau, &c., oddiar ei law ef. Ar wyneb-ddalen y llyfr hwn galwai ei hun yn " Gr. Williams, Gwyryf mewn Dwyfyddiaeth, a Pheriglor Llanllechid." Ysgrifenodd luaws o lyfrau ereill, ond yn rhy faith eu henwi yma.

PARCH. DANIEL JONES, GARNEDDI

Mab ydoedd i Mr. John a Gwen Jones, o'r Maes Mawr, yn mhlwyf Bangor. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1780. Cafodd y fraint o'i ddwyn i fyny yn grefyddol o'i febyd. Yr oedd ei rieni yn rhai hynod gyda chrefydd