Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae yn ymddangos iddo gael aflonyddu ei feddwl gyda mater ei enaid, wrth wrando ar y diweddar Barch. John Elias pan yn pregethu yn Aberpwll, oddiar y geiriau hyny, "Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iachéir; i halen y rhoddir hwynt." Pan yn fachgen lled ieuanc, rhwymwyd ef yn egwyddorwas (apprentice) o Saer Troliau, gyda dyn o'r enw Robert Thomas, Gate house. Dechreuodd bregethu pan ydoedd yn dysgu ei gelfyddyd yn y Gatehouse, a hyny yn y flwyddyn 1800, pan ydoedd tuag ugain mlwydd oed. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1823, a pharhaodd yn ddiwyd i weini yn y cylch hwnw am y cyfnod maith o 29 o flynyddoedd, pan y cafodd ei alw oddiwrth ei waith i fwynhau ei wobr. Mae yn debyg mai ychydig a deithiodd fwy nag ef trwy siroedd Cymru, a rhanau o Loegr hefyd.

Gyda golwg arno fel Pregethwr, mae yn rhaid i ni ddyweyd ei fod yn hollol ar ei ben ei hun; ac mae yn ddiameu ei fod yn y dosbarth mwyaf parchus a chymeradwy. Er nad oedd yn meddu ar ryw dalentau mawrion, eto yr oedd rhywbeth yn ei bregethau yn fwy fe allai na nemawr i un yn ei oes. Yn ei gofiant, dywed y Parch. D. Jones, Treborth, amdano fel Pregethwr: " Pregethai yn wastad yn fygythiol, gan dynu darluniad arswydus o drueni yr annuwiol, a hyny gyda bywiog rwydd, ac yn yr iaith agosaf at ddeall y cyffredin oi wrandawyr; ac yna cyn diweddu, dangosai ddiangfa i'r pechadur teimladwy, yr hyn a deimlid ar y pryd yn fywyd o farwolaeth, ac fel cyfnewidiad disymwth o ganol stormydd ofnadwy y gauaf, i ganol gwresogrwydd yr haf. Dyma ei ddull cyffredin o bregethu trwy ystod ei weinidogaeth."

Dywed y diweddar Barch. M. Hughes, Felinheli, yn ei gofiant ef, "Credwn na adwaenem neb a fu mor