Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llwyddianus ag ef gyda'r weinidogaeth yn meddu mor ychydig o dalentau naturiol, dysg, a gwybodaeth. Byddai mor ofer i neb geisio bod yn Daniel Jones ar ei ol ef, a cheisio bod yn John Elias." Dywedodd y diweddar John Elias amdano unwaith, "Pan y gollyngai Daniel Jones ei saethau allan, byddent yn bur debyg o ladd ar eu cyfer bob amser." Gan fod cofiant iddo wedi ym ddangos, nid oes angen i ni fanylu nemawr arno yma, Bu farw yn y flwyddyn 1852.

PARCH. WILLIAM OWEN, PENYGROES

Ganwyd W. Owen yn mhlwyf Trefdraeth, Môn, yn y flwyddyn 1816. Daeth yn lled ieuanc i weithio i chwarel Cae braich y cafn, ac felly gwnaeth ei gartref megys yn ardal Penygroes, lle hefyd yr oedd yn aelod eglwysig gwir gymeradwy. Trwy ei lafur a'i ddiwyd rwydd yn astudio llyfrau da, daeth yn feddianol ar wybodaeth dra helaeth, yn neillduol mewn duwinyddiaeth. Yn y flwyddyn 1846 codwyd ef i bregethu yr efengyl; ac yn Nghymdeithasfa Bangor, Medi 1859, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth.

Gallem ddyweyd cymaint a hyny am W. Owen, ei fod yn feddyliwr cryf, yn feirniad craffus, ac o chwaeth dda, yn berchen cof cryf, yn bregethwr gwir sylweddol, yn gristion gloew, ac yn un adeiladol iawn mewn cyfarfodydd eglwysig. Er nad oedd ei ddoniau yn rhyw ddysglaer iawn, eto yr oedd ei weinidogaeth yn hynod o dderbyniol gan y cynulleidfaoedd y byddai yn ymweled â hwynt. Yr oedd hefyd yn un o'r rhai mwyaf hy naws, serchog, a chyfeillgar, ac 'wedi enill gwir barch oddiwrth bawb a'i hadwaenai. Bu farw Ebrill 7fed, 1865, yn 49 mlwydd oed.