Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HANES

Y

BIBL CYMRAEG.


PENNOD I.

LLYFR DUW.

LLYFR Duw yw y Bibl. Datguddiad ydyw o feddwl—Duw i ddyn; dyna ddeallir wrth ei alw yn Ddatguddiad Dwyfol. Cymhwyswyd dynion duwiol, trwy ddylanwad yr Yspryd Glân, i dderbyn, a throsglwyddo, y Datguddiad hwn, trwy air, neu ysgrifen; dyna ddeallir wrth Ysprydoliaeth Ddwyfol.

Am hyn gelwir y llyfr hwn yn Ysgrythyrau, neu Ysgrifeniadau Sanctaidd. Gelwir ef yn Hên Destament a Thestament Newydd, oddiwrth fod yr Arglwydd yn arfer galw y berthynas oedd rhyngddo ef a'i bobl ar yr enw Testament, neu Gyfamod. Gelwid yr enw ar y cyntaf ar y berthynas hono; ac wedi hyny ar y llyfr yn mha un yr oedd y berthynas, y Testament,